Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 3 Hydref 2017.
'Na' yw'r ateb. Nawr, ble’r ydym ni am ddechrau? Beth am ddechrau gyda Twf Swyddi Cymru, ie? Y ffaith bod cymaint o bobl wedi eu cynorthwyo i mewn i swyddi, rhoddwyd hyfforddiant i bobl ifanc. Edrychwch ar y cymorth a roddwyd i weithwyr i gadw eu swyddi pan darodd y dirwasgiad yn galed yn 2008-09. Gadewch i ni siarad am y bobl sy'n fyw oherwydd Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013, a gafodd gefnogaeth drawsbleidiol ar draws y Siambr hon. Edrychwch ar y ffaith bod gennym ni’r ffigurau buddsoddi uniongyrchol tramor gorau ers 30 mlynedd. Edrychwch ar ein lefelau cyflogaeth. Rwy’n amau, mewn gwirionedd, bod angen i Ron ddarllen mwy o bapurau newydd.