2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 3 Hydref 2017.
5. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn mesur llwyddiant ei pholisïau creu cyfoeth? (OAQ51116)
Mae'n bwysig ystyried perfformiad economi Cymru drwy ddefnyddio basged o ddangosyddion a pheidio ag edrych ar un mesur unigol. Wrth gwrs, mae 'Ffyniant i Bawb' yn dangos y ffordd ymlaen. Bydd y cynlluniau a fydd yn dilyn yn rhoi mwy o fanylion.
Diolchaf i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog, ond o fesur nid yn unig creu cyfoeth, ond hefyd iechyd, addysg, darpariaeth tai ac ati, a yw Ron Davies, cyn Ysgrifennydd Cymru Llafur, yn iawn pan ei fod yn dweud, ar ôl 20 mlynedd o Gynulliad Cenedlaethol dan reolaeth Llafur, bod Cymru bellach yn dlotach nag yr oedd 20 mlynedd yn ôl? Aeth cyn-seren y blaid Lafur hwn ymlaen i ddweud nad yw'n gallu enwi unrhyw fenter sydd wedi gwella bywydau pobl Cymru. Does bosib, Prif Weinidog, bod yn rhaid i chi gytuno bod hwn yn ddadansoddiad yr un mor ddamniol o bolisïau Llafur ers datganoli ag unrhyw un a fynegwyd yn y Siambr hon.
'Na' yw'r ateb. Nawr, ble’r ydym ni am ddechrau? Beth am ddechrau gyda Twf Swyddi Cymru, ie? Y ffaith bod cymaint o bobl wedi eu cynorthwyo i mewn i swyddi, rhoddwyd hyfforddiant i bobl ifanc. Edrychwch ar y cymorth a roddwyd i weithwyr i gadw eu swyddi pan darodd y dirwasgiad yn galed yn 2008-09. Gadewch i ni siarad am y bobl sy'n fyw oherwydd Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013, a gafodd gefnogaeth drawsbleidiol ar draws y Siambr hon. Edrychwch ar y ffaith bod gennym ni’r ffigurau buddsoddi uniongyrchol tramor gorau ers 30 mlynedd. Edrychwch ar ein lefelau cyflogaeth. Rwy’n amau, mewn gwirionedd, bod angen i Ron ddarllen mwy o bapurau newydd.
Mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi honni bod swyddfeydd Llywodraeth Cymru dramor wedi methu yn eu nod o hybu allforion i'r gwledydd hynny. Mae'r ffigurau'n awgrymu bod allforion i'r gwledydd hynny, mewn gwirionedd, wedi gostwng rhwng 2013 a 2016, i lawr 13 y cant i'r Unol Daleithiau, i lawr 22 y cant i Wlad Belg a 55 y cant i Japan. Prif Weinidog, pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adolygu effeithiolrwydd ei swyddfeydd tramor i hybu masnach gyda'r gwledydd y maent wedi eu lleoli ynddynt?
Mae wedi syrthio i drap yn y fan yna, a osodwyd iddo gan Lywodraeth y DU, oherwydd yr hyn sydd wedi digwydd yw bod y fethodoleg wedi newid, felly—os cofiaf yn iawn—os oes gennych chi ffatri yng Nghymru sy'n allforio, ond bod ei phencadlys yn Lloegr, mae'n cael ei gyfrif fel allforio o Loegr. Dyna'r broblem. Felly, yn sydyn, rydym ni’n gweld y newidiadau sydyn hyn i’r ffigurau allforio, nid oherwydd bod llai o nwyddau'n cael eu hallforio’n ffisegol, ond oherwydd eu bod yn cael eu cyfrif fel rhai sydd wedi dod o Loegr gan fod eu pencadlys yn Lloegr. Gwyddom fod llawer o sefydliadau sy’n gweithgynhyrchu yng Nghymru nad yw eu pencadlys yng Nghymru.
Mae'n gofyn cwestiwn: beth ydym ni'n ei wneud i roi hwb i'n presenoldeb dramor? Rydym ni’n bwrw ymlaen â strategaeth i wneud yn union hynny. Mae’r cydbwysedd hwnnw y mae'n rhaid ei daro rhwng: a ydych chi'n hybu swyddfa sy'n bodoli eisoes neu a ydych chi'n agor swyddfa newydd? Comisiynwyd gwaith gennym gan Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru; rhoddasant wybodaeth i ni ynghylch sut y dylem fynd ati i wneud hynny. Yn ystod y misoedd nesaf, bydd Aelodau'n clywed am agor swyddfeydd newydd ac, wrth gwrs, hybu staff dramor er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi hwb i'n presenoldeb, gan weithio'n aml iawn gyda'r Adran Masnach Ryngwladol—yn fwyaf aml, gyda’r Adran Masnach Rhyngwladol mewn gwirionedd—ond yn y marchnadoedd hynny lle mae gan Gymru bresenoldeb cryf ac mae angen iddi gryfhau ei phresenoldeb yn y dyfodol.
Onid yw'n wir, serch hynny, Prif Weinidog, er gwaethaf yr hyn a ddywedasoch am lefelau diweithdra—ac mae hynny i’w groesawu; eu bod wedi gostwng yn is na chyfartaledd y DU am gyfnod ddechrau’r 1990au hefyd, oni wnaethant? Ond mae'r broblem yn ymwneud ag incwm, â ffyniant. Gallwch ddewis unrhyw nifer o fasgedi o ddangosyddion, boed nhw’n enillion cyfartalog, yn incwm gwario aelwydydd, yn werth ychwanegol gros y pen, yn incwm fesul awr a weithiwyd, ac ati. Rydym ni wedi gwaethygu o gymharu â lle’r oeddem ni ar ddechrau datganoli, ac nid dyna’r hyn a addawyd. Felly, beth ydym ni’n ei wneud yn anghywir a beth yw'r dangosydd—sut ydym ni'n mynd i fesur y llwyddiant, gobeithio, a ddaw rywbryd yn y dyfodol?
Nid yw’n fater o’n bod ni wedi gwaethygu, a bod pobl rywsut yn dlotach nag yr oeddent. Yr hyn sy'n gywir i’w ddweud, wrth i’n cynnyrch domestig crynswth—neu os hoffech chi fesur incwm aelwydydd domestig gros hefyd—gynyddu, nid yw wedi gwella ar yr un raddfa â rhannau eraill o'r DU. Dyna'r disgrifiad cywir. Gofynnodd y cwestiwn: beth ydym ni'n ei wneud am hyn? Wrth wraidd popeth mae sgiliau—sgiliau. Yr hyn a ddigwyddodd ar ddechrau datganoli yw ein bod wedi gweld llawer o'r busnesau hynny, rwy’n credu, a ddaeth yma oherwydd yr arian gan ddarparu gwaith heb sgiliau—fe wnaethant adael. Aethant i Hwngari. Aeth busnes yn fy etholaeth i fy hun i Hwngari. Aethant at economïau cost is, oherwydd mai'r cyfan yr oedden nhw eisiau ei wneud oedd gweithgynhyrchu'n rhad. Nawr, ni allwn chwarae'r gêm honno, ac ni ddylem geisio gwneud hynny. Felly, mae'r pwyslais nawr, yn drwm, ar sgiliau. Un o'r cwestiynau a ofynnwyd i ni gan fuddsoddwyr tramor erioed yw 'A yw eich pobl yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen arnom ni er mwyn i ni allu gweithredu yng Nghymru'? Yn gynyddol, wrth gwrs, yr ateb yw 'ydyn'.
Rydym ni’n gweithio'n agos iawn gyda cholegau addysg bellach ac rydym ni’n gweithio gyda'n prifysgolion mewn ffordd nad oedd yn digwydd 10 mlynedd yn ôl. Nid oedd gan ein prifysgolion ddiddordeb mewn gweithio tuag at ddatblygu economaidd bryd hynny; roedden nhw’n ystyried eu hunain yn sefydliadau academaidd yn unig. Er tegwch iddynt, maen nhw wedi newid. Bydd yn cymryd cryn dipyn o amser i ffrwyth y gwaith hwnnw ymddangos, ond rydym ni’n gweld buddsoddwyr yn dod i Gymru na fyddai, i siarad yn blaen, wedi dod 20 mlynedd yn ôl—buddsoddwyr pen uchaf sy'n talu mwy o ran y swyddi y maen nhw’n eu creu. Yr hyn sy'n allweddol nawr yw parhau i symud ar y llwybr hwnnw, nid yn unig o ran FDI. Bydd yn gwneud y pwynt, rwy'n deall, o ran annog BBaChau yng Nghymru. Nid yw'n gwestiwn o’r naill neu'r llall, a dyna'n union yr ydym ni eisiau ei wneud hefyd, gan weithio eto gyda'r prifysgolion ac eraill, gan sicrhau bod entrepreneuriaid ifanc sydd â syniadau da yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i roi'r syniadau hynny ar waith. Yn gynyddol, ledled Cymru, rydym ni’n gweld y busnesau hynny nawr yn dechrau cael eu creu ac yn tyfu.