Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 3 Hydref 2017.
Onid yw'n wir, serch hynny, Prif Weinidog, er gwaethaf yr hyn a ddywedasoch am lefelau diweithdra—ac mae hynny i’w groesawu; eu bod wedi gostwng yn is na chyfartaledd y DU am gyfnod ddechrau’r 1990au hefyd, oni wnaethant? Ond mae'r broblem yn ymwneud ag incwm, â ffyniant. Gallwch ddewis unrhyw nifer o fasgedi o ddangosyddion, boed nhw’n enillion cyfartalog, yn incwm gwario aelwydydd, yn werth ychwanegol gros y pen, yn incwm fesul awr a weithiwyd, ac ati. Rydym ni wedi gwaethygu o gymharu â lle’r oeddem ni ar ddechrau datganoli, ac nid dyna’r hyn a addawyd. Felly, beth ydym ni’n ei wneud yn anghywir a beth yw'r dangosydd—sut ydym ni'n mynd i fesur y llwyddiant, gobeithio, a ddaw rywbryd yn y dyfodol?