Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 3 Hydref 2017.
Rwy'n croesawu'n gyffredinol agwedd Llywodraeth Cymru at weithredu argymhellion yr Athro Graham Donaldson, ond bydd Aelodau'n ymwybodol o sylwadau'r Athro Donaldson a adroddwyd gan y BBC y bore yma, pryd y dywedodd fod cynnydd yn parhau i fod yn dda, ond rhybuddiodd hefyd yn erbyn unrhyw golli momentwm yn holl ddeinamig y diwygiad hwn.
Pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda'r Athro Donaldson ynghylch y newidiadau a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet yr wythnos diwethaf? A beth fyddai ymateb y Prif Weinidog i bryderon yr Athro Donaldson ynghylch y colli momentwm posibl?