Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 3 Hydref 2017.
Wel, mae'r Athro Donaldson yn goruchwylio'r bwrdd gweithredu mewn gwirionedd. Mae'n cytuno ein bod ni wedi gwneud y penderfyniad cywir i gyflwyno'r cwricwlwm fel cyflwyniad graddol yn hytrach na phopeth ar yr un pryd. Bydd y dull yn golygu bod gan bob ysgol yr amser i ymgysylltu â datblygiad y cwricwlwm a bod yn gwbl barod, wrth gwrs, ar gyfer y newidiadau. Mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd eisoes wedi dweud bod angen i ni barhau â'n hymgyrch i greu cwricwlwm ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, a dyna beth fyddwn ni’n ei wneud, ond ar y cyflymder priodol.