Part of the debate – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 3 Hydref 2017.
Nid wyf yn meddwl y caf fy nhemtio, Llywydd, i ddechrau sôn am Brexit yn y ddadl gyllidebol.
Rwyf am ymdrin hefyd â'r pwynt a ddaw allan o'r datganiad a'r cynigion amlinellol yn y gyllideb am yr hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddweud am y cytundeb rhwng Llywodraeth y DU a Gogledd Iwerddon. Mae'n anochel, o dan yr amgylchiadau hyn, y bydd pris i’w dalu am eu cefnogaeth wleidyddol. Mae’r un peth yn union wedi digwydd yn y Siambr hon rhwng Llafur a Phlaid Cymru. Bydd Gogledd Iwerddon yn cael £1 biliwn ychwanegol y flwyddyn, a phob lwc iddynt. Hoffwn y gallem ninnau wneud hynny. Pe bai Plaid Cymru ond wedi chwarae rhan gadarnhaol yn San Steffan fel y gwnaeth yr Undebwyr Democrataidd, efallai y bydden nhw'n gallu brolio heddiw am arian ychwanegol i Lywodraeth Cymru hefyd. Rwy'n sylweddoli bod eu barn am Brexit yn wahanol iawn i farn y Llywodraeth, ond nid wyf yn meddwl mai lle Gweinidogion Cymru yw cwyno am yr hyn sydd wedi digwydd yn San Steffan a hwythau’n gyfrifol am yr un math o fargen yn union yma yng Nghaerdydd.
A dweud y gwir, rwy’n croesawu'r rhan y mae Plaid Cymru wedi'i chwarae wrth ddatblygu rhan o'r gyllideb hon. Rwy'n meddwl ei fod yn beth da bod pob plaid yn y tŷ hwn yn cydweithio yn y ffyrdd hyn. Dyna, yn fy marn i, yw beth mae pobl Cymru yn ei ddisgwyl gennym ni hefyd. Rwy’n gwybod na fydd y dyfodol yn hawdd. Cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet, yn ystod ei ddatganiad, at y posibilrwydd o doriadau heb eu dyrannu gan Ganghellor y Trysorlys ar gyfer y flwyddyn 2020, ac nid ydym yn gwybod hyd yn hyn i ba raddau y bydd y toriadau hynny’n effeithio ar feysydd polisi datganoledig. Os ydynt yn effeithio ar feysydd fel amddiffyn, sy’n annhebygol yn fy marn i, bydd hynny’n ganlyniad da i ni. Os ydynt yn effeithio ar iechyd ac addysg, neu rywbeth tebyg, byddwn ni'n dioddef yn sylweddol iawn, o bosib, a byddwn yn gresynu’n fawr wrth hynny. Ond rwy'n ofni mai realiti’r amgylchiadau economaidd y mae'n rhaid inni fyw ynddynt yw y bydd angen inni ddod i arfer â hyn hyd y gellir rhagweld.
Gallwn i gyd ddymuno y byddai gennym gyfrif banc diderfyn, ond nid yw hynny’n bosibl i unrhyw lywodraeth. Mae'r ddyled genedlaethol nawr ar y trywydd iawn i ostwng fel cyfran o gynnyrch domestig gros, a dyna'r unig ffordd y gellir cadw cyllid cyhoeddus cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Gallem oll ddymuno y byddai'n haws bob blwyddyn, ond cyn gynted ag y mae lefelau dyled yn gostwng, mae pethau’n mynd yn haws. Yn sicr, roedd Llywodraeth gyntaf Blair yn deall hyn, oherwydd cafodd y ffigur dyled genedlaethol a etifeddwyd ganddynt yn 1997 ei gynnal oherwydd eu bod yn cadw at bolisïau tynn Kenneth Clarke—polisïau ariannol—pan oedd yn Ganghellor y Trysorlys i’r weinyddiaeth gyntaf, er mwyn cael eu hethol am yr ail dro. Yn wir, fe wnaethon nhw orffen cyfnod cyntaf Blair yn y swydd â dyled genedlaethol is na'r hyn y dechreuon nhw, ond yna aeth Gordon Brown ar drywydd hollol wahanol ar gyfer y ddwy Senedd nesaf, gan arwain at y drychineb inni i gyd yn 2010 ac etifeddiaeth y Llywodraeth Geidwadol, y maent yn dal i geisio ymdopi â hi heddiw. Rwy’n credu y gallent fod wedi bod yn fwy llym yn y modd yr oeddent yn trin cyllid cyhoeddus.
Rydym wedi cynnig toriadau i’r rhan nad yw'n ddyngarol o'r gyllideb cymorth i helpu gyda hynny. Gwnaethom gynnig, wrth gwrs, mynd allan o'r UE, a fydd yn ein galluogi i leihau gwariant cyhoeddus. Mae'r dyfodol yn ddisglair, a dweud y gwir, y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd. Edrychwch ar y buddsoddiadau sydd wedi bod yn digwydd ym Mhrydain, neu sydd wedi cael eu cyhoeddi gan gwmnïau mawr, fel Müller â £100 miliwn ychydig wythnosau yn ôl, a Dyson, hefyd, gyda £3 biliwn yn eu parc technoleg, ac yn y blaen, ac yn y blaen. Rwy'n credu y gall y dyfodol fod yn ddisglair i Gymru, ond dim ond gyda Llywodraeth sy'n deall pwysigrwydd entrepreneuriaeth, i godi'r sylfaen dreth yn y wlad hon, drwy gynyddu’r potensial economaidd a'r gallu cynhyrchiol i godi’r trethi y bydd eu hangen arnom er mwyn gwario yn y dyfodol. Ac ni welaf ddim arwydd o hynny, yn anffodus, gan y Llywodraeth Lafur Cymru hon.
Felly, ni fyddwn yn cefnogi'r gyllideb hon, maes o law, ond rwy'n edrych ymlaen yn fawr at fynd drwyddi fesul llinell yn y Pwyllgor Cyllid, ac, yn wir, yn y Siambr hon yn y misoedd i ddod.