5. 4. Datganiad: Ymateb Llywodraeth Cymru i'r Adolygiad Annibynnol o Chwaraeon Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 3 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:45, 3 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Yn amlwg ni allwn or-bwysleisio pwysigrwydd cael ein cynnig chwaraeon yn iawn yng Nghymru. Nid yn unig mae hyn yn wir o ran lles cenedlaethol a dathlu ein treftadaeth ac yn y blaen, fel y dywed y Gweinidog, ond yn bwysicach fyth mae’n ffordd o sicrhau ein bod yn bobl iachach. Ac wrth i ni edrych ymlaen at ffurfio'r strategaeth gordewdra gyntaf i Gymru—mae'n deillio o ganlyniad i'n gwelliant i Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)— rydym yn gwybod bod yn rhaid cael pobl sy’n egnïol yn gorfforol ac yn cymryd rhan mewn chwaraeon.

Hoffwn ofyn ychydig o gwestiynau a thynnu sylw at bethau nad ydynt yn y datganiad, os caf. Yn gyntaf, os caf ofyn i'r Gweinidog roi sylwadau ar yr hyn a ddisgwylir gan Chwaraeon Cymru nawr o ran mynd i'r afael â nifer o anghydraddoldebau. Anghydraddoldeb rhwng y rhywiau mewn chwaraeon fel yr un cyntaf: yr angen i fwy o ferched gymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff, a beth ddylai Chwaraeon Cymru ei wneud yn ei gylch, er enghraifft, cyllid teg; sicrhau cyfleusterau diogel; herio stereoteipiau. Gellid dweud yr un peth am anableddau. Ni chredaf fy mod wedi clywed yr hyn a ddisgwylir yn awr gan Chwaraeon Cymru o ran mynd i'r afael ag anghydraddoldebau yno. Hefyd, mynd i'r afael â hiliaeth: yn sicr mae rhwystr yn dal i fodoli o ran cymryd rhan mewn chwaraeon. Nid yw anghyfartaledd, rwy’n credu, ond yn cael ei grybwyll yng nghyd-destun gofyn i Chwaraeon Cymru fuddsoddi adnoddau lle mae eu hangen fwyaf o ran mynd i'r afael ag anghydraddoldebau cymdeithasol, ond mae enghreifftiau eraill o anghydraddoldebau—rhai yr wyf wedi'u crybwyll yma. Hefyd, mae anghydraddoldebau a gaiff eu hachosi gan godi tâl am gyfleusterau. Felly, efallai y gallwn ofyn am sylwadau ynghylch y modd o leihau'r costau hynny, lle mae’n bosibl.

Mae'r datganiad hefyd yn dweud bod yn rhaid i Chwaraeon Cymru weithio gydag ystod eang o bartneriaid: ysgolion, cyflogwyr, teithio egnïol, y trydydd sector ac yn y blaen. Sut ydym ni'n sicrhau, fodd bynnag, fod hynny'n arwain at ddarparu mwy o gyfleoedd chwaraeon? Nid yw’n ymwneud yn unig â chynnal cyfarfodydd rhwng y cyrff hynny. Pwy fydd yn sicrhau bod y partneriaethau newydd hyn mewn gwirionedd yn arwain at fwy yn digwydd yn y rheng flaen, fel petai? Ac er mai gorau i gyd po fwyaf o bartneriaid sydd gennym yn cymryd rhan yn y ddarpariaeth o gyfleoedd chwaraeon, ble mae atebolrwydd yn gorwedd os yw pawb i gymryd mwy o gyfrifoldeb? Ac, yn olaf, mae chwaraeon yn rhy aml yn dioddef o orfod tynhau llinynnau’r pwrs ar lefel llywodraeth leol, ac wrth gwrs, rwyf yn cydymdeimlo â chynghorau sy'n ceisio cael dau ben llinyn ynghyd. Ond tybed pa fesurau yr ydych chi'n ymchwilio iddynt i helpu awdurdodau lleol i wneud buddsoddiadau mewn amserau anodd, er enghraifft, drwy sicrhau bod cronfeydd ychwanegol, efallai, ar gael lle mae cyfleusterau chwaraeon presennol yn cael eu diogelu at ddefnydd cymunedau lleol.