5. 4. Datganiad: Ymateb Llywodraeth Cymru i'r Adolygiad Annibynnol o Chwaraeon Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:48 pm ar 3 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 4:48, 3 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Iawn, diolch yn fawr am y cwestiynau hynny. Roeddwn yn falch iawn o allu gweithio gyda Phlaid Cymru i gynnwys y gwelliant hwnnw yn Neddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 o ran cyflwyno strategaeth gordewdra genedlaethol i Gymru. Rwy'n falch o'ch hysbysu chi hefyd ei fod yn un o feysydd y Bil yr wyf yn ei ystyried yn flaenoriaeth. Felly, bydd yn un o Rannau'r Bil yr wyf yn awyddus iawn i roi dyddiad gorchymyn cychwyn cynnar iawn iddi hefyd. Felly, rwy'n blaenoriaethu'r rhan benodol honno o'r Bil.

O ran menywod a merched, mae Chwaraeon Cymru yn parhau i dargedu buddsoddi mewn cyfleoedd i fenywod a merched, yn enwedig trwy’r rhaglen Galw am Weithredu, ac maent wedi buddsoddi tua £1.5 miliwn yn benodol mewn prosiectau i wella cyfranogiad gan fenywod. Roeddwn i hefyd yn falch iawn o weld ym mis Awst eu bod yn lansio Ein Carfan. Ymgyrch yw hon sy'n anelu at ddathlu menywod a merched egnïol o bob cwr o Gymru, a chyfeirio cyfranogwyr newydd at gyfleoedd newydd hefyd. Mae'r ymgyrch honno hefyd yn ymwneud â herio rhai o'r stereoteipiau ynghylch menywod mewn chwaraeon, a pha fath o chwaraeon sy'n chwaraeon addas i fenywod ac yn y blaen. Mae'n ymwneud â rhoi modelau rôl i fenywod a gweledigaeth iddyn nhw weld eu hunain mewn ffordd wahanol mewn cyd-destun chwaraeon hefyd.

Un o'r prosiectau sy'n mynd i'r afael â phroblemau cynnwys mwy o fenywod, ond hefyd menywod yn benodol mewn cymunedau mwy difreintiedig, yw mudiad Us Girls Wales, a sefydlwyd gan GemauStryd Cymru ac a ariannwyd gan Chwaraeon Cymru. Mae hynny'n parhau i wella cyfranogiad menywod ifanc mewn chwaraeon yn y cymunedau o amddifadedd mwyaf ledled Cymru. Unwaith eto, mae honno’n rhaglen wirioneddol gadarnhaol hefyd.

Fel y dywedais yn y datganiad, nid yw’r cyfan ar gyfer Chwaraeon Cymru. Mewn gwirionedd, credaf fod gan y cyrff llywodraethu chwaraeon a chymdeithasau chwaraeon eraill ran wirioneddol bwysig a pharhaus i'w chwarae yn hyn hefyd. Gwn fod Undeb Rygbi Cymru, er enghraifft, yn gwneud rhywfaint o waith da i geisio annog mwy o ferched i feddwl am ddechrau chwarae rygbi. Yn yr un modd, mewn pêl-droed hefyd, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi gwneud gwaith gwych i annog merched i gymryd rhan mewn chwaraeon. Mewn gwirionedd, mae'r gêm yn tyfu'n gyflymach ar gyfer menywod a merched yng Nghymru ar hyn o bryd nag ar gyfer bechgyn, felly rwy'n credu bod hynny'n wirioneddol gadarnhaol hefyd.

O ran anableddau a rhan Chwaraeon Cymru yno, rwy'n falch iawn fy mod wedi cyhoeddi'n ddiweddar mai is-gadeirydd newydd Chwaraeon Cymru yw Pippa Britton. Mae Pippa Britton hefyd yn gadeirydd Chwaraeon Anabledd Cymru, felly mae hynny’n gysylltiad agos iawn rhwng y ddau sefydliad. Mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi cefnogi dros 1 miliwn o gyfleoedd i bobl anabl gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol, ac mae ganddynt 17,500 o aelodau sy'n mynychu dros 750 o glybiau a sesiynau ledled Cymru. Ond mae eu hethos gwirioneddol yn ymwneud â chwaraeon cynhwysol, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn ei gefnogi'n llwyr, o ran sicrhau bod yr holl gyfleoedd chwaraeon yn agored i bobl ag anableddau hefyd. Felly, nid yw'n ymwneud â chael clybiau penodol, yn hytrach mae'n ymwneud â chael ethos gwirioneddol gynhwysol hefyd. Mae gan Chwaraeon Anabledd Cymru hefyd oddeutu 5,000 o hyfforddwyr a gwirfoddolwyr sy'n cefnogi pobl ifanc i ymgymryd â chwaraeon yn y gymuned, ac rwy'n credu bod hynny'n sicr i’w ganmol hefyd.

O ran cyfleusterau, mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i roi cyfle i awdurdodau lleol ddatblygu eu cyfleusterau. Rydym yn gwneud hyn gan wybod bod pobl yn gweithredu mewn cyfnod ariannol cyfyngedig iawn. Felly, mae ein cynllun benthyciadau cyfalaf di-log wedi cynhyrchu buddsoddiad o dros £5 miliwn mewn cyfleusterau chwaraeon a hamdden eleni yng Nghonwy, Wrecsam a Chaerdydd. Mae hyn yn un enghraifft o'r ffyrdd arloesol yr ydym yn ceisio cynnal a gwella ein seilwaith cyfleuster ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Yn yr un modd, trwy raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, rydyn ni'n ceisio sicrhau bod ein buddsoddiad mewn ysgolion mewn gwirionedd yn fuddsoddiad yn y gymuned ehangach hefyd. Felly, rydym yn ceisio sicrhau bod y buddsoddiad hwnnw yno ar ôl oriau ysgol i glybiau ar ôl ysgol ac i oedolion yn y gymuned eu defnyddio hefyd. Rwyf wedi bod yn falch iawn o weld yr arweinyddiaeth a ddangoswyd gan gymdeithas pêl-droed Cymru, Undeb Rygbi Cymru, Hoci Cymru a Chwaraeon Cymru, o ran eu grŵp cydweithio trydedd genhedlaeth. Maent wedi buddsoddi, rhyngddynt, fwy na £2 filiwn mewn cyfleusterau chwaraeon ysgol. Felly, er gwaethaf adeg o gyni cynyddol, mae buddsoddi da yn digwydd mewn cyfleusterau.

Fe wyddoch hefyd fod Ken Skates wedi gofyn am adolygiad cyfleusterau—felly, gan edrych ar y cyfleusterau sydd gennym ar lefel elitaidd yng Nghymru—er mwyn ceisio denu digwyddiadau mawr amlwg i Gymru yn y dyfodol, oherwydd rydym yn sicr yn cael enw da a rhagorol am gynnal y mathau hynny o ddigwyddiadau.