5. 4. Datganiad: Ymateb Llywodraeth Cymru i'r Adolygiad Annibynnol o Chwaraeon Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:54 pm ar 3 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 4:54, 3 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Weinidog, rwy’n falch iawn o gyfeiriad y daith a'ch datganiad chi heddiw. Yng Nghasnewydd, fel y gwn eich bod yn ymwybodol, rydym wedi bod yn gweithio tuag at ddod â gweithgareddau hamdden, chwaraeon, iechyd, awdurdodau lleol, y sector gwirfoddol, clybiau chwaraeon proffesiynol a chwaraeon gwerin gwlad at ei gilydd. Cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd i geisio cael poblogaeth leol fwy egnïol ac i geisio mynd i'r afael â'r agenda iechyd ac ansawdd bywyd ehangach a gynigir gan chwaraeon. Rwy'n credu bod angen ail-ganolbwyntio ymdrechion Chwaraeon Cymru, Llywodraeth Cymru ac eraill yng Nghymru tuag at yr agenda ehangach honno, oherwydd mae gennym lawer o heriau iechyd. Rwy'n credu y byddai llawer yn cydnabod, os ydym yn dymuno bod ar y blaen gydag iechyd a chael agenda fwy ataliol, yna dyma'r union bolisïau a strategaeth y mae angen inni eu hystyried a'u dilyn. Felly, rwy'n falch iawn o hynny.

Tybed a allech chi ddweud ychydig am sut y gallai Llywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru ac eraill annog mentrau lleol fel yr un sy'n digwydd yng Nghasnewydd, boed hynny drwy ddatblygiadau newydd fel bondiau lles neu unrhyw gyfle arall, i edrych ar arferion da a’u cefnogi a gobeithio wedyn eu cyflwyno ymhellach i ffwrdd. Tybed a fyddech hefyd yn cydnabod mentrau fel yr un gan Newport Live, sy'n bartner gweithredol a chryf iawn yn y datblygiad lleol hwnnw yng Nghasnewydd, fel yr ymddiriedolaeth sy’n datblygu gwasanaethau hamdden. Yn ddiweddar, maent wedi lansio menter nofio, Draig Dŵr, yr aeth Jayne, Jessica Morden, yr AS dros Ddwyrain Casnewydd, a minnau iddo yr wythnos ddiwethaf. Mae'n rhaglen i gael mwy o bobl i gymryd rhan mewn nofio, ac yna symud ymlaen a gosod targedau iddynt eu hunain, er mwyn elwa ar hyfforddiant ac awgrymiadau i wella eu techneg ac i fonitro a hwyluso'r cynnydd hwnnw. Dyna un o nifer o fentrau y mae Newport Live yn eu datblygu ar hyn o bryd, sy'n ei wneud yn bartner gweithredol a chryf iawn yn y fenter leol honno.

Tybed hefyd a fyddech yn cytuno bod y gweithgareddau rhedeg mewn parciau ledled Cymru (y “park runs”) yn enghraifft gref iawn o sut y gallwch ddefnyddio technegau ymgysylltu, megis gwefannau, a chaniatáu i bobl fonitro eu cynnydd trwy amseru eu gweithgareddau rhedeg, a chael ystod o weithgaredd cymdeithasol, a sut y gallem efallai edrych ar y model hwnnw ar gyfer rhedeg a gweld a fyddai’n addas i weithgaredd corfforol arall, a fyddai'n ein helpu ni i gael y boblogaeth fwy egnïol yr ydym am ei gweld.

Ynghylch teithio egnïol, Weinidog, tybed a allech chi ddweud ychydig am sut yr ydych chi'n gweithio gyda chyd-Weinidogion yn Llywodraeth Cymru i sicrhau bod teithio egnïol yn effeithiol ac yn gwireddu’r agenda hon. Roeddwn yn falch iawn eich clywed yn sôn amdano yn eich datganiad cychwynnol.

Yn olaf, ar ysgolion cymunedol, rwyf wedi credu ers amser y dylai ysgolion cymunedol fod ar gael at ddefnydd mwy cyffredinol ledled Cymru. Pe byddent, credaf y byddai'n haws i ni gael y boblogaeth leol i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol a gwneud y cynnydd yr hoffem ei weld. Felly, unwaith eto, tybed a allech chi roi syniad inni o sut yr ydych chi'n gweithio ar draws Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ysgolion cymunedol ar gael ledled Cymru yn drefn arferol yn hytrach nag arfer da.