5. 4. Datganiad: Ymateb Llywodraeth Cymru i'r Adolygiad Annibynnol o Chwaraeon Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:57 pm ar 3 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 4:57, 3 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau a'r sylwadau hynny. Ar ôl eich clywed yn siarad yn flaenorol gyda chymaint o angerdd am Newport Live a'r potensial yno a beth y mae eisoes yn ei gyflawni, roeddwn yn falch iawn o fynd yno i weld drosof fy hunan yr hyn y maen nhw’n ei wneud. Gwnaed cymaint o argraff arnaf ag y disgwyliais ar ôl eich clywed chi yn siarad amdanyn nhw. Ar yr un pryd, ar yr un ochr, cawsom bobl yn hyfforddi ar lefel elitaidd a hefyd cawsom grwpiau o blant ysgol yn gwneud gweithgareddau a dysgu am fwyta'n iach ac yn y blaen. Felly, roedd y sbectrwm cyfan ar un safle. Roedd yn ysbrydoledig a chyffrous iawn. Mae'n sicr yn rhywbeth y byddwn yn annog ardaloedd eraill i edrych arno a dysgu o'r hyn sydd wedi bod yn digwydd yn Newport Live oherwydd mae’n gyffrous iawn.

Soniasoch am fondiau lles a dyma un o'n hymrwymiadau yn ein rhaglen lywodraethu. Rydym yn datblygu'r syniadau ar hyn o bryd ar gyfer bondiau lles ac, unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth y gwn eich bod yn awyddus i Newport Live ei drafod, i weld yr hyn y gallwn ni ei ddysgu ganddyn nhw wrth inni ddechrau datblygu hynny. Mae gwahanol fodelau yr ydym yn edrych arnynt ar hyn o bryd. Felly, gallem fod yn edrych ar fenthyciadau, er enghraifft, neu fodelau talu yn ôl canlyniad. Mae gwahanol fodelau ar gael, ond ar yr un pryd, nid oes unrhyw rai sefydlog a sefydledig y gwyddom yn bendant y byddant yn gwneud y gwaith yr ydym yn ei ddymuno. Felly, rwy'n cadw meddwl agored wrth inni ddatblygu bondiau lles Cymru.

Y gweithgareddau rhedeg mewn parciau, y “park runs”, rwy'n falch iawn eich bod wedi sôn am y rhain oherwydd, unwaith eto, maent yn dod â phobl o bob lefel o brofiad at ei gilydd: mae pobl a oedd yn anweithgar yn flaenorol yn mynd yno oherwydd ei fod yn ddigwyddiad mewn parc, mae'n amgylchedd hwyliog, hysbys, lleol gyda phobl groesawgar ac yn y blaen, a hefyd mae’n denu pobl sy’n gallu rhedeg 5, 10, 20 cilomedr heb golli unrhyw chwys. Felly, mae'n dod â phobl o bob gallu at ei gilydd ac rwy'n croesawu hynny. Enghraifft dda arall fyddai'r grwpiau beicio Breeze i fenywod. Maent yn dod â menywod at ei gilydd mewn amgylchedd diogel, yn ddechreuwyr yn aml, sy’n cymryd y cam cyntaf hwnnw i wneud gweithgaredd corfforol, ac mae hynny'n enghraifft wych arall o waith sydd eisoes yn digwydd ar hyd a lled Cymru.

Teithio egnïol: mae hyn yn hynod bwysig o ran creu seilwaith ar gyfer gweithgaredd corfforol, oherwydd credaf fod dwy ochr i hyn. Mae’n creu neu roi ysbrydoliaeth i bobl, ond yna hefyd mae’n rhoi cyfle i bobl, ac ochr seilwaith y cyfle. Bydd ein mapiau rhwydwaith integredig yn cael eu cyflwyno gan bob un o'r awdurdodau lleol i Lywodraeth Cymru erbyn mis Tachwedd eleni, ac rwyf wedi bod yn glir iawn gyda nhw. Yn wir, rwyf wedi ysgrifennu atyn nhw i bwysleisio'r pwynt eto yn weddol ddiweddar, mewn gwirionedd, bod yn rhaid i'r mapiau rhwydwaith integredig hynny fod yn ymwneud â theithio'n egnïol yn hytrach na dyheadau ar fwy o lwybrau hamdden yn y dyfodol, oherwydd, os ydym eisiau newid y ffordd yr ydym yn symud a'n bod yn ymgymryd â’n teithiau a'n siwrneiau byr, yna, mae'n rhaid i ni fod yn canolbwyntio yn amlwg iawn ar lwybrau teithio egnïol.

O ran ein gwaith ar draws y Llywodraeth, rwyf wedi gweithio'n agos gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i weld beth yn fwy y gallwn ni ei wneud i ddefnyddio asedau ein hysgolion a beth y gallwn ni ei wneud yn ystod y diwrnod ysgol i annog plant i fod yn fwy egnïol hefyd. Rydym wedi cael llwyddiant da iawn o ran y filltir ddyddiol. Nawr, mae miloedd ar filoedd o blant Cymru yn gwneud y filltir ddyddiol bob dydd. Gwyddom fod hyn yn cael effaith ragorol ar ymddygiad plant yn yr ysgol, ar eu sylw yn y dosbarth ac yn y blaen. Mae'r athrawon yn caru hyn; mae rhieni'n caru hyn. Dywed y rhieni, 'Pe na fyddech chi’n gwneud y filltir ddyddiol yn yr ysgol, byddem ni'n ei gwneud beth bynnag nawr gan fy mod wedi gweld y gwahaniaeth y mae'n ei wneud i fy mhlentyn i o ran sut mae’n dysgu yn yr ysgol hefyd.’ Felly, mae llawer o syniadau arloesol yn digwydd ar hyn o bryd ac awydd gwirioneddol i weithio ar draws y Llywodraeth ar yr agenda bwysig hon.