Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 3 Hydref 2017.
Trwy'r dull rhanbarthol o ddileu TB, rydym ni wedi sefydlu ardal TB isel. Mae dadansoddiad epidemiolegol o ddata gwyliadwriaeth yn dangos bod y mwyafrif, os nad pob un, o’r achosion o TB yn yr ardal TB isel yn deillio o haint heb ei ddarganfod yn cael ei gyflwyno trwy symud gwartheg o ardaloedd eraill. Mae'r dystiolaeth hon o glefyd nad yw'n endemig yn yr ardal TB isel yn golygu ein bod erbyn hyn mewn sefyllfa i newid y ffordd yr ydym yn ymdrin â phrofi. Un o'r prif newidiadau yw dileu'r gofyniad i brofi gwartheg cyn eu symud o fewn neu o’r ardal TB isel. Mae profion cyn symud wedi bod ar waith yng Nghymru ers 2006 ac mae'n parhau i fod yn ddull gwerthfawr yn yr ardaloedd TB canolraddol ac uchel o adnabod haint cyn iddo ymledu.
Fodd bynnag, rydym ni wedi cyflwyno profion ar gyfer gwartheg ar ôl eu symud o ardal clefyd uwch. Rydym ni’n cydnabod nad yw unrhyw brawf TB yn berffaith, felly mae cyflwyno prawf ychwanegol ar y fferm yn y pen draw yn darparu sicrwydd dwbl o statws TB y gwartheg sy'n cael eu symud i'r ardal TB isel. Byddwn yn monitro ac yn adolygu llwyddiant y polisi hwn cyn ystyried a yw'n briodol ehangu ei gyflwyniad i'r ardal TB canolraddol y flwyddyn nesaf.
Mae unedau pesgi eithriedig yng Nghymru yn cael eu dileu yn raddol ar hyn o bryd oherwydd y nifer cymharol uchel o achosion o TB yn y math hwn o weithredu a'r risg gynhenid o ledaenu clefydau. Er mwyn taflu goleuni ar y newid hwn, mae oddeutu 20 o unedau pesgi eithriedig sy'n bodoli yng Nghymru ar hyn o bryd a chysylltwyd â phob gweithredwr ynglŷn â’r dewisiadau sydd ar gael iddynt.
Er mwyn amddiffyn Llywodraeth Cymru rhag cost yr anifeiliaid sydd â’r gwerth mwyaf, cyflwynwyd terfyn uchaf o £5,000 ar iawndal TB sy'n daladwy am bob anifail. Bydd cyfran yr anifeiliaid y bydd y newid hwn yn effeithio arnyn nhw yn fach. Y llynedd, o’r holl wartheg a brisiwyd at ddibenion TB, dim ond 68 o anifeiliaid—llai nag 1 y cant—oedd â gwerth yn fwy na £5,000. Pe bai’r terfyn uchaf wedi bod ar waith y llynedd, byddai arbedion o ychydig llai na £200,000 wedi'u gwneud—arbediad sy'n bwysig yng nghyd-destun colli arian yr Undeb Ewropeaidd ar ôl 2018.
Mae darparu a rhoi cynlluniau gweithredu pwrpasol ar waith ar gyfer achosion mynych o TB sy'n para 18 mis neu fwy yn parhau. Mae'r rhain yn cael eu llunio, mewn ymgynghoriad â'r ffermwr, gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion a milfeddyg preifat y ffermwr, yn ôl cais y ffermwr. Cytunwyd ar oddeutu 40 o gynlluniau gweithredu hyd yn hyn, ac mae rhagor yn cael eu hychwanegu bob mis. Ar yr un pryd, mae’r cyfyngiad ar rai achosion mynych o TB mewn buchesi yn cael ei godi ac maen nhw’n dod i ffwrdd o’r rhestr. Fodd bynnag, ar unrhyw adeg, mae rhwng 50 a 60 o achosion mynych o TB yn agored ac mae'r rhain yn yr ardaloedd TB canolraddol ac uchel.
Drwy broses y cynllun gweithredu, mae cyfres o fesurau yn cael eu defnyddio er mwyn helpu i glirio heintiau. Mae'r rhain yn cynnwys profion TB mwy sensitif, dileu adweithyddion amhendant, a’i gwneud yn ofynnol i gynnal prawf TB ychwanegol cyn caniatáu i wartheg gael eu symud ar ôl codi’r cyfyngiadau. Gellir hefyd cyflwyno hysbysiad o ofyniad bioddiogelwch er mwyn codi safonau bioddiogelwch ar fferm i'r lefel ofynnol er mwyn lliniaru afiechydon mynych.
Mewn rhai achosion mynych o TB pan yr ystyrir bod moch daear yn cyfrannu at fynychder y clefyd yn y fuches, bydd y cynlluniau gweithredu yn cynnwys mesurau i fynd i'r afael â’r trywydd hwn o’r haint. Yn dilyn arolygon o frochfeydd, bydd y mesurau hyn yn cynnwys dal a phrofi moch daear ar y fferm lle mae’r achos o TB a lladd moch daear mewn modd gwaraidd os oes TB arnyn nhw. Bydd moch daear nad oes TB arnyn nhw yn cael eu rhyddhau ar ôl i ficrosglodyn gael ei osod, a bydd gwaed yn cael ei dynnu i gynnal rhagor o brofion.
Rwyf wedi parhau i fonitro sefyllfa'r frechlyn moch daear yn ofalus, gan fy mod i’n credu bod brechu moch daear yn chwarae rhan yn ein rhaglen dileu TB. Pan fydd y sefyllfa gyflenwi ar gyfer pobl wedi ei datrys ac y gallaf fod yn siŵr y gallwn ni gael brechlynnau o ffynhonnell foesegol, byddaf i’n ystyried y ffordd orau o ddefnyddio'r brechlynnau yn rhan o'n rhaglen dileu TB.
Ni allaf orbwysleisio pa mor bwysig yw dileu’r achosion hirsefydlog hyn o TB, mae rhai ohonyn nhw wedi bod dan gyfyngiadau ers 16 mlynedd neu fwy. Ar gyfartaledd, cost profi’r buchesi hyn a’r iawndal ar gyfer gwartheg a gaiff eu difa yw £179,000 ar gyfer pob buches. Byddwn ni’n monitro effeithiau'r holl fesurau hyn yn fanwl ac yn ceisio bod mewn sefyllfa i adolygu ffiniau'r ardaloedd TB pan fydd gennym ni’r set ddata lawn o'r flwyddyn galendr ar gyfer 2018.
Mae’r gwaith modelu a gosod targedau yn parhau. Dylai fod adroddiad ar y gwaith hwn ar ddiwedd y flwyddyn, pan fyddwn yn sefydlu targed dileu ffurfiol ar gyfer Cymru gyfan a cherrig milltir interim ar gyfer pob un o'r ardaloedd TB. Ochr yn ochr â'r gwelliannau hyn, mae'r drefn o brofi buchesi yn flynyddol am TB yn parhau ledled Cymru. Mae gennym ni bron i wyth mlynedd o ddata profion blynyddol yng Nghymru erbyn hyn, ac mae'r lefel uchel hon o oruchwyliaeth weithgar yn darparu sicrwydd diamau o statws TB gwirioneddol y buchesi gwartheg yng Nghymru, ac mae 95 y cant o'n buchesi gwartheg yn rhydd rhag TB.
Er mwyn ychwanegu at ein gwybodaeth am TB buchol mewn moch daear a mathau eraill o fywyd gwyllt allai gludo’r haint, mae'n bleser gennyf gyhoeddi y bydd yr arolwg Cymru gyfan o 'foch daear marw' yn parhau, yn dilyn ymarfer caffael llwyddiannus. Dyfarnwyd y contract ar gyfer y gwaith hwn i Ganolfan Wyddoniaeth Milfeddygol Cymru, ac mae ei gwmpas wedi'i ehangu i gynnwys casglu a chynnal archwiliad ar ôl lladd ar unrhyw rywogaethau bywyd gwyllt eraill yn ogystal â moch daear.
Mae'r ystadegau TB yn parhau i fod yn galonogol. Mae nifer yr achosion newydd o TB wedi gostwng 40 y cant ers 2009, y lefel isaf ers 12 mlynedd. Er yr ymddengys fod y duedd hon wedi sefydlogi ar hyn o bryd, gellir disgwyl cyfnodau sefydlog yn rhan o'r patrwm hirdymor cyffredinol. Dyna pam yr ydym ni wedi gwella ein rhaglen i barhau i ostwng lefelau’r clefyd.
Hoffwn i ddiolch i'r diwydiant ffermio, a'r proffesiwn milfeddygol a rhanddeiliaid eraill am eu cydweithrediad a'u hymgysylltiad parhaus wrth i’n rhaglen ddatblygu a gwneud cynnydd tuag at ein nod yn y pen draw o weld Cymru sy’n rhydd rhag TB.