6. 5. Datganiad: Y Rhaglen i Ddileu TB Buchol

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 3 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 5:25, 3 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma? Ar gyfer y cofnod, hoffwn i, unwaith eto, nodi bod TB buchol wedi effeithio ar fferm fy rhieni yng nghyfraith yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Wrth gwrs, mae datganiad heddiw yn cadarnhau bod y gwaith ar fodelu a gosod targedau yn parhau, ac rwy’n croesawu’r ffaith y bydd targedau mwy ffurfiol yn cael eu cyhoeddi ar ddiwedd y flwyddyn hon. Fodd bynnag, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau bod y targedau hyn yn cael eu datblygu mewn partneriaeth â'r diwydiant amaethyddol i sicrhau eu bod yn gymesur ac yn gadarn.

Mae gan Ysgrifennydd y Cabinet fy nghefnogaeth lwyr ar gyfer cynigion Llywodraeth Cymru i ddechrau dileu’r clefyd hwn o'r boblogaeth bywyd gwyllt. Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru bellach yn dechrau cymryd y cam anodd hwnnw ymlaen trwy gael gwared â moch daear heintiedig yn ogystal â gwartheg heintiedig. Wrth gwrs, o ystyried sensitifrwydd y mater hwn, ar gyfer tirfeddianwyr a Llywodraeth Cymru, rwy'n deall, a hynny’n iawn hefyd, na fydd unrhyw wybodaeth benodol yn cael ei rhyddhau i’r parth cyhoeddus. Fodd bynnag, efallai y gallai roi rhagor o fanylion ynglŷn â sut y mae hi’n bwriadu monitro'r trefniadau hyn i sicrhau bod y broses hon yn digwydd mor esmwyth â phosibl. Efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet hefyd ddweud wrthym ni sut y bydd hi’n asesu effeithiolrwydd y polisi hwn, fel bod y rheolaethau sydd wedi’u targedu yn cael eu gweithredu'n briodol.

Nawr, wrth gwrs, mae ffordd ranbarthol o weithio wrthi’n cael ei gweithredu, ac mae'n hollbwysig nad yw'r ffordd hon o weithio yn arwain yn anuniongyrchol at fwy o faich a biwrocratiaeth i ffermwyr. Mae'n hollbwysig nad yw'r dull rhanbarthol yn rhwystro unrhyw ymdrechion i gyflawni'r bargeinion masnach gorau posibl ar gyfer diwydiannau cig coch a llaeth Cymru, a’i bod yn sicrhau nad oes effaith negyddol ar fasnach ddomestig rhwng Cymru a Lloegr. Yn wir, wrth ymateb i fy nghwestiynau ynglŷn â hyn cyn y toriad, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod ei swyddogion yn sicr wedi siarad â DEFRA ac wedi cynnal trafodaethau ynglŷn â hynny. Felly, efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym ni sut y mae'r trafodaethau hynny'n datblygu, a pha gamau y mae hi wedi eu cytuno arnynt â Llywodraeth y DU.

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o'r pryderon a godwyd yn ddiweddar gan ffermwyr yn fy ardal fy hun ynglŷn â’r effaith negyddol y gallai'r rheolaethau newydd ei chael ar fridwyr pedigri mewn ardaloedd lle mae cyfraddau TB yn uchel. Felly, efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym ni sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant pedigri yn benodol, sy'n pryderu y gallai'r ffordd ranbarthol o weithio ei gwneud hi’n anoddach iddyn nhw fasnachu yn y dyfodol.

Wrth gwrs, un o nodau tymor hwy Llywodraeth Cymru, yn ôl cynllun cyflawni rhaglen dileu TB Cymru, yw datblygu cynllun prynu ar sail gwybodaeth. Yn natganiad Ysgrifennydd y Cabinet cyn y toriad, cadarnhaodd mai cynllun gorfodol oedd yr unig ffordd ymlaen, a'i bod hi wedi gofyn i swyddogion edrych ar gynllun gorfodol. Nawr, gan nad yw'r datganiad heddiw yn cyfeirio at gynllun prynu ar sail gwybodaeth, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau bod hyn yn parhau i fod ar agenda Llywodraeth Cymru ac, felly, a wnaiff hi ddweud wrthym yn union beth y mae ei swyddogion wedi ei wneud i ddatblygu cynllun gorfodol?

Cadarnhaodd y cynllun cyflawni dileu TB y byddai terfyn uchaf yr iawndal yn cael ei ostwng i £5,000. Mae hyn bellach wedi'i gyflwyno yn ystod y dyddiau diwethaf, wrth gwrs, ac rwy'n sylweddoli bod hyn yn effeithio ar nifer bach o ffermydd yn unig. Mewn ymateb i fy nghwestiynau ynglŷn â’r pwnc hwn yn ystod ei datganiad blaenorol, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet y byddai'n annog pobl sydd o’r farn bod ganddynt wartheg mwy gwerthfawr i ystyried yswiriant. Fodd bynnag, dywed cynllun cyflawni rhaglen dileu TB Llywodraeth Cymru fod pryderon na fyddai yswiriant yn ddewis ymarferol oherwydd cost y premiymau. Felly, er fy mod i’n sylweddoli bod hyn yn effeithio ar nifer bach iawn o ffermwyr yn unig, mae pryderon, yn naturiol, am y ffermwyr yr effeithir arnyn nhw gan achosion sylweddol o’r clefyd na allan nhw gael yswiriant ar gyfer anifeiliaid sydd wedi’u prisio yn fwy na £5,000. Felly, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym ni sut y bydd hi’n cefnogi'r ffermwyr hynny fel bod effaith y cynnig hwn mor fach â phosibl.

Agwedd arall ar y rhaglen dileu TB yw datblygu pecyn bioddiogelwch safonol, ar-lein. Mae'n hollbwysig bod y pecyn hwn yn cael ei ddatblygu gyda'r diwydiant i sicrhau ei fod yn ddigon hyblyg i ystyried amgylchiadau unigol, y gwahanol risgiau, a’r hyn sy’n sbarduno’r clefyd ym mhob ardal TB. Rwy'n falch bod y datganiad heddiw yn nodi pwysigrwydd bioddiogelwch ar y fferm i liniaru mynychder y clefyd. Fodd bynnag, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym ni felly rhywfaint yn fwy am sut y bydd yn sicrhau bod unrhyw becyn bioddiogelwch ar y fferm yn berthnasol i anghenion unigol? A wnaiff hi ddweud wrthym ni rhywfaint yn fwy am sut y bydd y diwydiannau amaethyddol a milfeddygol yn ymwneud â datblygu unrhyw becynnau bioddiogelwch ar-lein?

Felly, i gloi, Llywydd, a gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet, unwaith eto, am ei datganiad y prynhawn yma? Ac a gaf i, unwaith eto, gofnodi fy nghefnogaeth lwyr i gynigion Llywodraeth Cymru? Ni allaf bwysleisio pa mor bwysig yw hi bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r diwydiant amaethyddol i ddileu TB buchol er mwyn amddiffyn pa mor gynaliadwy a chystadleuol yw’r diwydiant ar gyfer y dyfodol, yn arbennig wrth i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd. Diolch.