Part of the debate – Senedd Cymru am 5:34 pm ar 3 Hydref 2017.
A gaf i ddweud yn gyntaf fy mod i’n croesawu’r datganiad sydd yn cadarnhau beth sydd ar waith erbyn hyn, ac yn sgil y datganiad blaenorol gan y Gweinidog, sydd wedi cael cefnogaeth hefyd yn gyffredinol gan Blaid Cymru. Wrth gwrs, at ei galon, yr hyn y mae’r materion hyn yn ymwneud ag ef yw iechyd y cyhoedd ar yr un llaw, a lles anifeiliaid ar y llaw arall. Mae Plaid Cymru o’r farn bod angen trin lles anifeiliaid—y gwartheg sy’n dioddef o’r dicáu buchol yn gymaint â lles moch daear. Ac yn ogystal â mynd i’r afael ag anifeiliaid sydd wedi’u heintio, beth bynnag yw rhywogaeth yr anifail hwnnw, rydym yn croesawu’r camau sydd wedi’u cymryd yn y datganiad yma ac yn gobeithio y bydd hefyd yn gweithredu, i ryw raddau, i godi’r cysgod sydd dros y diwydiant ar hyn o bryd. Er bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn dweud bod nifer y buchesi sy’n dioddef o’r dicáu buchol yn gostwng, yn sicr mae’r effaith mewn nifer o rannau o Gymru yn drwm iawn.
Nid wyf am ailadrodd cwestiynau Paul Davies—mae e wedi gofyn y rhan fwyaf o’r cwestiynau roeddwn i’n mynd i ofyn—felly, fe wnaf jest ddweud fy mod i hefyd yn croesawu eich atebion i’r cwestiynau ynglŷn â phryniant doeth, fel mae’n cael ei adnabod, rwy’n meddwl, yn Gymraeg, y farchnad fewnol, a beth sy’n digwydd rhwng buchesi pedigri yn ogystal.
Roedd un cwestiwn rwy’n credu i Paul Davies ofyn, ac roeddwn i am ofyn, na chawsoch chi gyfle i’w ateb, ac efallai y byddech yn ateb i fi, sef: er ein bod ni wrth gwrs yn cydnabod na fyddem ni eisiau gwybodaeth i ddod allan ynglŷn â lle efallai y mae gweithredu ymysg bywyd gwyllt yn digwydd, sut y gallwn ni fod yn siŵr, nid yn unig ei fod yn cael ei fonitro ac yn cael ei wneud yn y ffordd fwyaf llesol, os caf i ddweud e fel hynny, neu fwyaf ‘humane’, ond ein bod ni hefyd yn deall a ydy e’n gweithio ac a ydy e wedi helpu i ostwng y dicáu yn y parthau hynny ac ar y ffermydd penodol hynny lle mae eich datganiad yn dweud ei fod wedi bod yn gronig am gyfnod hir iawn?
Os felly, fe wnaf jest symud ymlaen at ddau neu dri chwestiwn newydd. Mae un ohonyn nhw’n troi o gwmpas y ffaith eich bod chi wedi dweud yn glir mai un o’r rhesymau dros gyflwyno cap oedd i wneud arbedion. Roeddech yn sôn bod yr arbedion yna yn rhyw £200,000 y flwyddyn, sydd yn codi’r cwestiwn: beth sy’n digwydd ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd. Erbyn hyn, rydym ni’n gwybod am y dyddiadau hynny. Rydym ni’n gwybod yn iawn beth yw’r dyddiad. Nid ydym yn gwybod pa fath o fasnachu fydd yn digwydd, ond yn y cyd-destun yma, ni fyddwn bellach yn rhan o gytundeb yr Undeb Ewropeaidd. A fyddech chi’n gallu cadarnhau heddiw y byddwch chi yn cadw gwariant y Llywodraeth ar y clefyd yma ar y lefel bresennol, o leiaf tan ddiwedd y Cynulliad hwn, fel bod hynny’n gyrru neges gywir i’r diwydiant eich bod chi am gydweithio gyda nhw a bod y cap, os liciwch chi, yn werth y pris i dalu, gan y bydd arian yn dal i gael ei wario i leihau a chael gwared ar y clefyd yma?
Yr ail gwestiwn sydd hefyd yn codi, wrth groesawu’r ffaith eich bod chi wedi ehangu’r profi sydd yn digwydd ar anifeiliaid marw, yw bod yna ambell i sôn yn y cyd-destun Cymreig am gyflwyno rhywogaeth newydd i gefn gwlad Cymru. Mae’r afanc wedi cael ei grybwyll sawl gwaith ac rwy’n deall bod cynlluniau eithaf penodol nawr i gyflwyno afanc i rannau yng nghanolbarth Cymru. Mae’r afanc, yn ôl beth rwy’n deall, yn gallu cario’r clefyd hwn, felly pa gamau a pha sicrwydd fedrwch chi ei roi yn y cyd-destun yma na fydd unrhyw rywogaeth newydd yn cael ei gyflwyno i gefn gwlad a all ledaenu’r clefyd yma?
Rwy’n gobeithio y bydd ffermwyr a’r Llywodraeth yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod y rhaglen ar ei newydd wedd yn llwyddiannus. Rwy’n gobeithio’n fawr y gwelwn ni leihad yn nifer y buchesi ond hefyd yn y ffordd y mae’r clefyd yma’n cael ei wasgaru mewn rhannau poeth, fel maen nhw’n cael eu galw, yng Nghymru. Rwyf jest am ofyn pryd fyddwch chi’n fodlon ailedrych a yw’r parthau sydd gyda chi, y tri pharth gwahanol yng Nghymru, yn gwneud y job a pryd fyddwch chi’n fodlon ailedrych ar hyn i weld a ydy’r cynllun yma’n llwyddo ai peidio?