6. 5. Datganiad: Y Rhaglen i Ddileu TB Buchol

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:39 pm ar 3 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 5:39, 3 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Simon Thomas, am groesawu'r datganiad ac am eich cwestiynau. Rydych chi'n iawn, mae’n fater o iechyd y cyhoedd yn ogystal â lles anifeiliaid. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn rhannu'r nod hwnnw o fod yn rhydd rhag TB. Dyna pam, oherwydd y sefydlogi hynny—roeddem ni’n gwybod ei fod ar y ffordd—roedd yn bwysig iawn ein bod yn adnewyddu'r rhaglen TB.

O ran eich cwestiwn penodol, rydych chi'n iawn, mi wnes i anghofio ateb cwestiynau Paul Davies ynghylch monitro. Felly, byddwch chi’n ymwybodol, mewn cysylltiad â dal moch daear, bod hynny ond yn digwydd yn yr achosion hynny o fuchesau sydd ag achos cronig o TB. Soniais fod rhwng 50 a 60 buches o’r fath, felly mae'r cynlluniau gweithredu hynny yn cael eu llunio ar hyn o bryd. Rwyf i wedi gofyn i'r cynlluniau gweithredu hynny gael eu monitro. Soniais am y milfeddyg, ac yn amlwg yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Fe hoffwn i adrodd yn flynyddol, yn ôl pob tebyg, ynglŷn â sut y mae hyn yn datblygu. Felly, bydd blwyddyn yn mynd heibio, mewn gwirionedd, cyn imi allu adrodd mewn modd sylweddol a fyddai'n fuddiol.

O ran y cynllun prynu ar sail gwybodaeth a grybwyllwyd gennych chi hefyd, a chan Paul Davies, fel yr wyf i wedi’i ddweud, rydym ni’n bwriadu cyflwyno cynllun prynu gorfodol ar sail gwybodaeth. A'r rheswm yr ydym ni’n gwneud hynny yw oherwydd ei fod wedi cyfrannu'n sylweddol at ddileu TB yn Awstralia a Seland Newydd ac roeddwn i’n ffodus iawn i siarad â rhywun o Seland Newydd ynglŷn â hyn. Rydych chi’n iawn, ni fyddwn yn adrodd pa ffermydd sydd â'r cynlluniau gweithredu pwrpasol oherwydd, yn amlwg, mae mater o ddiogelwch yn ei gylch, ond fel yr wyf wedi’i ddweud, byddaf i’n adrodd, yn sicr—fy mwriad yw gwneud hynny yn flynyddol.

O ran y terfyn uchaf ar yr iawndal, rwyf wedi ymrwymo i dalu swm iawndal rhesymol ar gyfer lladd gwartheg oherwydd TB, ond mae'n fwy hanfodol erbyn hyn ein bod ni'n edrych ar ba arian y gallwn ni ei arbed, oherwydd rydych chi’n iawn, nid ydym ni’n gwybod ble mae'r arian hwnnw. Felly, yn sicr, fy mwriad i fyddai parhau i ariannu ar y lefel yr ydym ni ar hyn o bryd, ond rydych chi’n sylweddoli bod cyllidebau'n cael eu llunio yn flynyddol a bydd yn rhaid i ni ystyried hynny. Ond nid yw'n ymwneud ag arbed arian, mae'n ymwneud â dileu TB, ac rwy’n pryderu bod gorbrisio yn cynyddu'r gost i'r trethdalwr, ac rwyf wir yn dymuno osgoi hynny. Ac wrth gymharu ein taliadau iawndal cyfartalog, maen nhw 60 y cant yn uwch o’u cymharu â Lloegr, ac nid wyf i’n credu bod hynny’n dderbyniol.

Fe wnaethoch chi sôn am ddyfrgwn ac afancod: fe glywais i hefyd dros doriad yr haf eu bod yn ystyried cyflwyno afancod yng Nghymru, ond y tro diwethaf i mi wirio, ni fu unrhyw geisiadau am drwyddedau, ond, yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth y bydd yn rhaid i ni ei ystyried, yn amlwg, os yw hynny yn digwydd. A soniais y bydd yr arolwg o foch daear marw yn cynnwys rhywogaethau eraill bellach, a byddwn i’n annog yr holl Aelodau i wneud yn siŵr bod y rhif ffôn hwnnw—nid yw ef gen i wrth law; mae yma rhywle—ar gael i bawb, ac os byddan nhw’n dod o hyd i fochyn daear marw, eu bod yn rhoi gwybod amdano.

Rwyf i hefyd yn gobeithio y bydd hyn yn arwain at welliant sylweddol, yn arbennig yn yr achosion hynny o fuchesi ag achosion cronig, sydd, fel yr wyf wedi’i ddweud, mae rhai ohonyn nhw—neu un ohonyn nhw, wedi bod yn y cyflwr hwnnw ers 2001. Mae'n gwbl annerbyniol ar gynifer o wahanol lefelau, ac rwy'n falch iawn o'r ffordd y mae'r sector wedi gweithio gyda ni i ddatblygu rhaglen ddileu ddiwygiedig.