Part of the debate – Senedd Cymru am 5:43 pm ar 3 Hydref 2017.
Wel, gallaf i fod hyd yn oed yn fwy cryno na Simon Thomas, o ystyried bod llai o gwestiynau heb eu hateb erbyn i chi ddod ataf i. Ond rwy'n croesawu'r datganiad, ac fe hoffwn i hefyd gofnodi fy marn bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod yn adeiladol iawn yn y ffordd y mae hi wedi datblygu polisi yn y maes hwn ac mae'r gymuned ffermio yn gwerthfawrogi’n fawr y natur agored y mae wedi ei dangos a'i pharodrwydd i wrando ac ymgysylltu â nhw mewn trafodaethau ymarferol ynglŷn ag ymdrin â'r afiechyd ofnadwy hwn. Mae yr un mor bwysig i'r gymuned ffermio ac, yn wir, y wlad gyfan, y dylid ymdrin â hyn fel yr ymdriniwyd â BSE bryd hynny. Yn sicr, o ran y dyfodol, a photensial marchnata cynhyrchion amaethyddol yng Nghymru, bydd ymdrin â TB a'i ddileu, cyn belled ag y gallwn ni, yn hanfodol yn y byd ar ôl Brexit. Rwy’n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu fy marn i ar hynny.
I'r perwyl hwnnw, er fy mod yn credu'n gryf, fel y gŵyr hi, mewn rheoleiddio cymesur, mae’r newid yn y rheoliadau sy’n ymwneud â phrofion cyn symud mewn ardaloedd TB isel yn rhywbeth y mae angen ei adolygu yn barhaus, ac fe hoffwn i wybod a fydd hynny'n digwydd. Fe hoffwn i ychwanegu at yr hyn a ddywedwyd eisoes ynglŷn ag iawndal i ffermwyr ar gyfer anifeiliaid sydd gwerth mwy na £5,000, ac fe wn i fod Ysgrifennydd y Cabinet newydd ddweud bod yr iawndal ar gyfartaledd 60 y cant yn fwy nag yn Lloegr—fe glywais i Llyr Gruffydd yn dweud ychydig yn ôl bod hynny oherwydd bod gennym ni wartheg sydd 60 y cant yn well. Nid wyf i’n gwybod a yw hynny'n wir mewn gwirionedd, ond serch hynny, yn amlwg, nid ydym ni eisiau talu’n fwy na’r angen am wartheg, ond serch hynny, mae’n rhaid i ni gydnabod bod incwm ffermydd o dan bwysau eithafol ac mae hyn yn gosod cost wirioneddol ar bobl yn y byd go iawn. Felly, rwy'n gobeithio, unwaith eto, y bydd hi’n parhau i adolygu hynny.
Un o'r problemau mawr, wrth gwrs, yw anifeiliaid y gwyllt, oddi ar ffermydd sydd wedi eu heintio. Rwyf i’n cydnabod y cam sylweddol y mae hi wedi'i gymryd, ac mae’n rhaid, yn iaith briodol Syr Humphrey, yr ystyrid hynny yn ddewr, i benderfynu difa hyn a hyn o foch daear ble maent i’w canfod gyda’r haint arnyn nhw, ac i wneud hynny mewn modd gwaraidd. Mae hynny yn gam ymlaen arwyddocaol iawn mewn egwyddor, ac, yn fy marn i, mae hi’n haeddu ein llongyfarchiadau am hynny.
O ran brechu moch daear, tybed a yw hi'n cytuno â mi nad yw hyn mewn gwirionedd, yn fy marn i, yn gam ymarferol i ddileu'r clefyd hwn. Rydym ni i gyd yn cofio pan oedd y brechlynnau ar gael, roedd y gost am bob mochyn daear a frechwyd yn rhyfeddol: cymaint â, rwy’n credu, os cofiaf yn iawn, rhywbeth fel £1,000. Felly, mae'n ddrud iawn ac mae poblogaeth y moch daear yn anodd ei monitro, felly rwy'n credu mai gam gwag yw meddwl os bydd y brechlyn erioed ar gael eto mewn niferoedd sylweddol, y bydd hynny’n ateb i'r clefyd hwn.
Mae fy mhwynt olaf yn ymwneud â swyddogaeth yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion a'r gofyniad, felly, i gael dau filfeddyg ar y fferm i archwilio anifeiliaid. Fe wn i fod hwn yn gam ymlaen mewn sawl ffordd, ond mae hyn yn gost ychwanegol i’r ffermwr. Mae'n debygol y bydd ei filfeddyg ei hun yn adnabod ei fferm a'i anifeiliaid ei hun yn well na milfeddyg yr Asiantaeth, tybed felly, er mwyn cynorthwyo, a allai’r Llywodraeth dalu am gost milfeddyg yr Asiantaeth hefyd.
Un pwynt arall yr hoffwn i gael rhywfaint o sicrwydd yn ei gylch yw fy mod i’n gwybod na all Ysgrifennydd y Cabinet roi union amseroedd i ni, ac fe wn i y cyflwynwyd rheolaethau uwch ar gyfer gwartheg yr hydref hwn, ond a all hi gadarnhau y bydd y broses o ddal a phrofi moch daear hefyd yn digwydd ar yr un pryd yr hydref hwn, yn unol â'r rheolaethau ychwanegol sy'n cael eu rhoi ar ffermwyr Cymru? Mae'r diwydiant ffermio wedi dweud na allai dderbyn rhagor o reolaethau ar wartheg heb fod hynny’n digwydd ar yr un pryd, ac rwy’n gobeithio ei bod hi’n gallu rhoi sicrwydd i mi heddiw fod hynny'n debygol.