6. 5. Datganiad: Y Rhaglen i Ddileu TB Buchol

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:50 pm ar 3 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 5:50, 3 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad ac rwy'n ffyddiog y bydd y mesurau gwell a newydd hyn yn parhau â'r cynnydd sylweddol a wnaed tuag at ddileu TB buchol yng Nghymru, sydd eisoes wedi arwain at ostyngiad o 40 y cant mewn achosion ers 2009. Rwy'n rhannu eich penderfyniad i glirio'r achosion hirsefydlog o TB, y gost i'r cyhoedd a'r gofid personol y mae’r rhain yn ei beri.

Ond, mae’r Aelodau yn gwybod fy marn ar ddifa bywyd gwyllt: credaf y dylem wneud popeth yn ein gallu i'w osgoi. Felly, byddwn i’n annog y Llywodraeth i barhau i chwilio am ffyrdd newydd, arloesol a gwaraidd wedi’i seilio ar wyddoniaeth o ddileu’r clefyd. Mae yna wahaniaeth mawr rhwng Cymru a'r difa diofal yn Lloegr. Rwy’n gwybod, Ysgrifennydd y Cabinet, nad ydych chi’n cefnogi difa llwyr ac rwy'n croesawu'r dull hwnnw, ond rwyf yn meddwl tybed pa mor aml y bydd cewyll yn cael eu harchwilio a pha mor siŵr y gallwch chi fod, pan fydd mochyn daear wedi ei ddal, y byddai'n dianc rhag marwolaeth a dioddefaint diangen. Fe wnaethoch chi sôn am gael gwybod am laddiadau ar ochr y ffordd. Tybed a ydyn nhw wedi’u hasesu i ganfod a oedden nhw’n farw eisoes cyn cyrraedd ochr y ffordd, a faint ohonyn nhw mewn gwirionedd sy’n rhydd rhag TB. Mae gen i lawer o dystiolaeth anecdotaidd sy'n awgrymu bod hynny'n ffordd o gael gwared ar foch daear sydd wedi eu lladd yn anghyfreithlon ymhell cyn iddyn nhw gyrraedd ochr y ffordd. Felly, yr unig ffordd y gallwn ni bennu hynny yw trwy edrych yn agosach ar y cyrff hynny.

Mae’r peth arall yr hoffwn i ei ofyn yn ymwneud â’r gollyngiadau slyri o'r ffermydd llaeth mawr a lledaeniad posibl TB buchol o ganlyniad i hynny. Rwy’n gofyn, oherwydd nid oes sôn o gwbl yn y datganiad hwn, pa un ai a fyddai modd cyn i ni drwyddedu rhagor o ffermydd llaeth mawr, ystyried o ddifrif y cais cynllunio hwnnw o ran cyfyngu’r slyri i’r fferm, yn hytrach na'i bod i’w weld yn yr afon o fewn ychydig o ddyddiau ac yn eithaf aml hefyd.

Byddai gennyf i ddiddordeb hefyd mewn clywed eich barn, Ysgrifennydd y Cabinet, ar dechneg profi newydd sy'n cael ei defnyddio ar fferm yn Nyfnaint a allai helpu i adnabod ac ynysu gwartheg heintiedig yn fwy cywir a chyflym, gan ddileu TB o’r fuches heb orfod ymyrryd â'r bywyd gwyllt cyfagos. Rydym ni’n gwybod, er bod moch daear yn gallu dal TB oddi wrth wartheg, nad ydyn nhw’n ei gadw'n fyw am agos gyn hired. Ymddengys bod y prawf yn Nyfnaint yn dangos hyd yn oed pan fo moch daear o amgylch y fferm wedi eu profi'n bositif am TB, oherwydd bod y clefyd wedi ei ddileu o'r fuches yn gyfan gwbl, nid yw'n dychwelyd. Mae'r Save Me Trust yn cynorthwyo’r astudiaeth ac yn gobeithio, drwy wella’r profi, y bydd lladd moch daear yn amherthnasol, ac rwyf innau yn gobeithio hynny hefyd.

Y peth arall sydd wedi fy ngofidio, ac rwy'n siŵr y bydd wedi gofidio pobl eraill sy'n gwrando ar y ddadl hon heddiw, yw cynnwys erbyn hyn, nid moch daear yn unig, ond dyfrgwn ac afancod hefyd. Mae hynny’n peri gofid mawr i mi, ac fe hoffwn i weld unrhyw dystiolaeth y gall unrhyw un ei gyflwyno ynglŷn â hynny.