Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 4 Hydref 2017.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’n ofynnol i ysgolion gynnwys manylion yn eu cynlluniau datblygu ynglŷn â sut y byddai’r corff llywodraethu yn ceisio bodloni targedau gwella ysgolion ar gyfer y flwyddyn drwy weithio gyda theuluoedd disgyblion yn yr ysgol. Mewn arolwg gan PTA Cymru, canfuwyd mai 66 y cant yn unig o rieni a ddywedodd fod ysgol eu plentyn yn cyfathrebu’n dda â hwy, o gymharu â 76 y cant yng Ngogledd Iwerddon a 73 y cant yn Lloegr. Felly, mae’r awdurdodaethau hynny o’n blaenau yn hynny o beth. Rwy’n pryderu’n benodol ynghylch y modd y mae ysgolion yn cysylltu â gofalwyr maeth, sydd, yn amlwg, yn camu i rôl rhieni. Credaf fod hwn yn fater pwysig iawn ac y dylid ei flaenoriaethu mewn ysgolion i sicrhau eu bod yn ymgymryd â’r cyswllt hanfodol hwn yn effeithiol.