<p>Lefelau Cyrhaeddiad mewn Ysgolion</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 4 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 1:37, 4 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Huw. Nid yw Dechrau’n Deg yn rhan o fy mhortffolio, ond rydych yn llygad eich lle i dynnu sylw at ei rôl hollbwysig. Rwy’n cytuno mai po gynharaf y gallwn ymyrryd ym mywydau plant i sicrhau budd cadarnhaol, y cyfleoedd gorau y gall dysgwyr o gefndiroedd mwy difreintiedig eu cael yn ddiweddarach yn eu bywydau. Dyna pam y cyflwynasom y grant amddifadedd disgyblion ar gyfer y blynyddoedd cynnar—mae’n ddrwg gennyf, y grant datblygu disgyblion ydyw bellach—ym mis Ebrill 2015 i ddarparu cymorth ychwanegol i’n dysgwyr ieuengaf, gan gynnwys cymorth gyda datblygu lleferydd ac iaith a datblygiad cynnar sgiliau llythrennedd, sy’n gallu bod yn heriol weithiau. Rydym yn ategu’r gwaith hwnnw, er enghraifft, drwy gynorthwyo BookTrust Cymru i ddarparu deunydd darllen ar gyfer teuluoedd yn ogystal â’r ymgyrch ‘Magu plant. Rhowch amser iddo’ a’n hymgyrch Mae Addysg yn Dechrau yn y Cartref, lle y mae gan deuluoedd fynediad at adnoddau rhad ac am ddim i’w helpu i helpu eu plant.