<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 4 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:38, 4 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rydych wedi cydnabod wrthyf yn y Siambr hon—ac mae’r Prif Weinidog, a phob tegwch, wedi dweud yr un peth—nad yw’r Llywodraeth yn gwneud cystal ag yr hoffai o ran athrawon cyflenwi yma yng Nghymru. Wrth gwrs, cyhoeddodd y pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei adroddiad, yn awgrymu camau gweithredu yn y Cynulliad diwethaf. Sefydlwyd tasglu’r model cyflenwi gweinidogol y llynedd a chyflwynasant eu hadroddiad ar ddechrau’r flwyddyn. Gyda’r sector yn teimlo’n fwyfwy rhwystredig oherwydd y diffyg cynnydd, awgrymai eich llythyr diweddaraf at y pwyllgor addysg yr wythnos diwethaf y gallai fod yn ddwy flynedd arall yn awr cyn y bydd model newydd yn cael ei ddatblygu, a’i roi ar waith yn y pen draw. Mae hynny ymhell dros bedair blynedd wedi i’r Llywodraeth dderbyn yr holl argymhellion yn adroddiad y pwyllgor hwnnw yn ôl yn 2015. Felly, a ydych yn cydymdeimlo â rhwystredigaeth y sector yn hyn o beth, ac a oes ganddynt achos cyfiawn dros fod yn ddig ynglŷn â pha mor araf y mae’r Llywodraeth yn ymgymryd â’r gwaith o ddiwygio?