1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 4 Hydref 2017.
Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet. Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rydych wedi cydnabod wrthyf yn y Siambr hon—ac mae’r Prif Weinidog, a phob tegwch, wedi dweud yr un peth—nad yw’r Llywodraeth yn gwneud cystal ag yr hoffai o ran athrawon cyflenwi yma yng Nghymru. Wrth gwrs, cyhoeddodd y pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei adroddiad, yn awgrymu camau gweithredu yn y Cynulliad diwethaf. Sefydlwyd tasglu’r model cyflenwi gweinidogol y llynedd a chyflwynasant eu hadroddiad ar ddechrau’r flwyddyn. Gyda’r sector yn teimlo’n fwyfwy rhwystredig oherwydd y diffyg cynnydd, awgrymai eich llythyr diweddaraf at y pwyllgor addysg yr wythnos diwethaf y gallai fod yn ddwy flynedd arall yn awr cyn y bydd model newydd yn cael ei ddatblygu, a’i roi ar waith yn y pen draw. Mae hynny ymhell dros bedair blynedd wedi i’r Llywodraeth dderbyn yr holl argymhellion yn adroddiad y pwyllgor hwnnw yn ôl yn 2015. Felly, a ydych yn cydymdeimlo â rhwystredigaeth y sector yn hyn o beth, ac a oes ganddynt achos cyfiawn dros fod yn ddig ynglŷn â pha mor araf y mae’r Llywodraeth yn ymgymryd â’r gwaith o ddiwygio?
Llyr, mae mater athrawon cyflenwi yn un cymhleth a sensitif. Fe fyddwch yn gwybod bod y grŵp gorchwyl a gorffen a sefydlwyd gan y Gweinidog blaenorol wedi cydnabod yn eu hadroddiad eu hunain, a gyflwynwyd i mi, nad oes un ateb unigol a all fynd i’r afael â mater athrawon cyflenwi. Nid yw’n deg dweud nad oes unrhyw gamau wedi eu cymryd. Rwyf wedi sefydlu grŵp i ystyried canfyddiadau’r adroddiad gorchwyl a gorffen a’u rhoi ar waith. Felly, er enghraifft, mae gan athrawon cyflenwi fynediad at Hwb bellach, lle nad oedd hynny’n wir o’r blaen. Rydym yn gweithio ar drefniadau hyfforddi newydd ar gyfer athrawon cyflenwi. Mae gennym drefniadau cydweithredol newydd ar waith mewn nifer o awdurdodau lleol mewn perthynas ag athrawon newydd gymhwyso sy’n gweithio ar y llwybr cyflenwi er mwyn eu cefnogi’n well yn eu rôl. Ac rydym yn parhau i edrych ar fodelau newydd o ddarparu athrawon cyflenwi.
Fel y dywedais yn fy natganiad yr wythnos diwethaf, mewn cwestiwn a ofynnoch bryd hynny, rwy’n credu, mae swyddogion wedi bod yng Ngogledd Iwerddon yn ddiweddar i edrych ar brofiad Gogledd Iwerddon. Fodd bynnag, hyd nes bod y broses o ddatganoli cyflog ac amodau athrawon wedi’i chwblhau, rydym wedi ein cyfyngu braidd yn ein gallu i gyflwyno’r model newydd arloesol yr hoffwn ei weld.
Wel, mae etholwr wedi cysylltu â mi—ac roeddech chi’n sôn am gyflog ac amodau—ac roedd hi’n ennill £115 y dydd fel athrawes gyflenwi. Mae hi bellach wedi cael llythyr gan ei hawdurdod lleol yn dweud bod yn rhaid i bob ysgol weithio drwy’r asiantaeth athrawon cyflenwi breifat, New Directions, gydag ychydig iawn o eithriadau. Ac mae hi’n dweud wrthyf y bydd hynny’n golygu y bydd ei chyflog yn gostwng i £85 y dydd, gan fod New Directions yn cadw oddeutu 30 y cant o’r arian a delir gan ysgolion am athrawon cyflenwi. A oes unrhyw syndod fod prinder cynyddol o athrawon cyflenwi, yn enwedig mewn rhai pynciau? A ydych yn derbyn bod ein hathrawon cyflenwi yn haeddu gwell cynnig a chyflog tecach?
Mater i ysgolion unigol yw cyflogi athrawon cyflenwi. Nid oes yn rhaid i ysgolion fynd drwy’r gweithdrefnau unigol hynny o reidrwydd. Anogir awdurdodau lleol i ddefnyddio trefniadau’r consortia, gan fod hynny’n rhoi rhywfaint o sicrwydd inni, er enghraifft, ynglŷn â gwiriadau ar gyfer yr ymarferwyr unigol a all fod yn gweithio yn ein hysgolion. Un o’r problemau a welsom gyda’r grŵp gorchwyl a gorffen yw nad yw rhai o’r sefydliadau llai o faint sy’n trefnu ac yn darparu athrawon cyflenwi yn dilyn rhai o’r gwiriadau sylfaenol yr hoffem sicrhau eu bod yn digwydd yn ein hysgolion.
Felly, fel y dywedais, yn y pen draw, ceir model ar gyfer ysgolion unigol, ond buaswn yn disgwyl bod yr holl amddiffyniadau priodol ar waith ar gyfer ein gweithlu athrawon cyflenwi. Yr hyn sy’n bwysig i mi yw ein bod yn defnyddio athrawon cyflenwi pan fo angen, ond nad yw athrawon cyflenwi yn dod yn ddewis diofyn mewn llawer o’n hysgolion, ac mae hynny’n amharu ar ddysgu, o bosibl, ac yn effeithio ar safonau.
Wel, nid ydych wedi ateb y cwestiwn ynglŷn ag a ydynt yn cael cynnig teg yn hyn o beth. Oherwydd mae athro cyflenwi arall yn dweud wrthyf ei fod yn ystyried rhoi’r gorau i swydd y mae wedi’i gwneud ers 18 mlynedd oherwydd y gostyngiad sylweddol y mae’n ei wynebu yn ei gyflog. Ac yn y cyfamser, wrth gwrs, mae’n dweud wrthyf ei fod yn gweld New Directions yn talu difidend o £100,000 yr un i’w gyfarwyddwyr, a chyfran mewn difidend pellach o £430,000 gan riant-gwmni’r cwmni. Ar yr union adeg y mae ein hysgolion yn dibynnu fwyfwy ar athrawon cyflenwi am eu gwasanaethau a’u cymorth, rydych yn gwthio’r posibilrwydd o ddiwygio ddwy flynedd, efallai tair blynedd, ymhellach i’r dyfodol. Nawr, yn y cyfamser, mae cyflogau athrawon cyflenwi yn gostwng. Felly, a ydych yn credu ei bod hi’n iawn fod asiantaeth breifat yn mynd â thraean o gyflog athrawon cyflenwi?
Fel y dywedais, mater i’r ysgolion yw trefniadau cyflogi athrawon cyflenwi unigol. Un o’r enghreifftiau mwy diddorol o fodel amgen a ystyriwyd gan y grŵp gorchwyl a gorffen yw’r model cydweithredol a sefydlwyd gan yr athrawon eu hunain yn ne-orllewin Lloegr, ac rwy’n awyddus iawn i weld a oes unrhyw wersi y gellir eu dysgu o hynny.
O ran defnyddio asiantaethau preifat, mae hwnnw’n un o’r rhesymau pam ein bod wedi sefydlu’r trefniadau consortia newydd hyn gydag awdurdodau lleol ar gyfer athrawon newydd gymhwyso, fel mai’r awdurdodau lleol, mewn gwirionedd, sy’n gyfrifol am leoli athrawon cyflenwi yn yr ardaloedd hynny. Ac mae’r mathau hynny o fodelau, a’r contract cymdeithasol sydd gennym rhyngom ni fel Llywodraeth Cymru a’n gweithlu addysgu, yn un rwy’n awyddus i adeiladu arno.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yr haf hwn, cafwyd y canlyniadau TGAU gwaethaf yng Nghymru ers degawd, gyda’r cyfraddau pasio ar eu lefelau isaf ers 2006. Mae hynny’n rhoi tystiolaeth bellach inni fod gweinyddiaethau olynol o dan Lafur Cymru—a’r Llywodraeth glymblaid hon bellach—yn gwneud cam â phlant a phobl ifanc yma yng Nghymru. Beth a wnewch i wella’r sefyllfa hon?
Yr hyn rwyf am ei wneud yw gweithredu cynnwys ‘Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl’, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, ac yr atebais gwestiynau yn ei gylch yn y Siambr hon yr wythnos diwethaf.
Nid ydych wedi dweud beth yn benodol y byddwch yn ei wneud i wella’r canlyniadau TGAU. Un peth a fyddai’n ddefnyddiol, wrth gwrs, yw sicrhau bod gwerslyfrau TGAU ar gael yn Gymraeg i’r disgyblion sy’n dymuno sefyll eu harholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg. Ond fel y gwyddoch, mae’n debyg, o ran y fanyleb newydd ar gyfer TGAU astudiaethau crefyddol, sydd eisoes wedi’i chyhoeddi—nid oes unrhyw werslyfrau ar gael ar gyfer TGAU astudiaethau crefyddol, yn Gymraeg nac yn Saesneg. Felly, ni fyddwn yn gweld unrhyw welliannau hyd nes y bydd eich Llywodraeth yn gwneud rhywfaint o waith i sicrhau bod yr adnoddau angenrheidiol gan yr athrawon, a bod dysgwyr yn gallu cael mynediad at yr adnoddau angenrheidiol, er mwyn codi’r safonau hyn. Rhoesoch sicrwydd inni yn y gorffennol fod y materion hyn wedi eu datrys. Rydym bellach ar ddechrau mis Hydref ac nid yw’r gwerslyfrau hyn ar gael o hyd yn y naill iaith neu’r llall, yn enwedig ar gyfer TGAU astudiaethau crefyddol. Pryd rydych yn mynd i dynnu’r ewinedd o’r blew a datrys y sefyllfa hon?
A gaf fi fod yn gwbl glir gyda’r Aelod mewn perthynas â chyfraddau pasio TGAU yr haf hwn? Ar gyfer pobl ifanc 16 oed, roedd y gyfradd a basiodd yn 66.7 y cant, ac mae hynny’n cyd-fynd â’r lefelau uchaf erioed a welsom dros y tair blynedd diwethaf. Yn bwysig i mi, mae canlyniadau ar lefel A*—y myfyrwyr sy’n cyflawni orau oll—wedi aros yn sefydlog, a chafwyd gwelliannau yng nghanlyniadau’r haf ar lefel A* i C mewn meysydd pwnc gyda nifer fawr yn eu sefyll, megis canlyniadau gwell mewn llenyddiaeth Saesneg, canlyniadau gwell mewn hanes, canlyniadau gwell mewn daearyddiaeth, ac yn bwysig, canlyniadau gwell mewn Cymraeg ail iaith.
Mae’r mater sy’n ymwneud â gwerslyfrau yn un dilys. Ni fydd Cymwysterau Cymru—wrth gwrs, mae cymwysterau hyd braich o’r Llywodraeth hon bellach—yn cymeradwyo cwrs newydd gan CBAC oni bai eu bod yn fodlon fod yr adnoddau ar gael. O ran adnoddau dwyieithog, rwy’n siŵr y bydd yr Aelod yn croesawu’r cyhoeddiad ddoe y bydd adnoddau ychwanegol ar gael ar gyfer cynhyrchu adnoddau cyfrwng Cymraeg, o gofio bod y Llywodraeth hon a Phlaid Cymru yn rhannu uchelgais i gynyddu adnoddau yn y maes hwnnw.
Un esgus am y canlyniadau TGAU gwael na chlywsom eu rhestru gennych, wrth gwrs—fe geisioch wneud y pwynt hwn ar sawl achlysur—yw mai TGAU newydd yw’r rhain. Ond wrth gwrs, mae gennym y Safon Uwch newydd, ac fe wellodd y canlyniadau mewn perthynas â’r Safon Uwch, er eu bod, fel y dywedais yn gynharach, wedi gwaethygu mewn perthynas â TGAU yma yng Nghymru.
Rydym wedi clywed addewidion gennych yn y gorffennol ynglŷn â sicrhau bod gwerslyfrau Cymraeg ar gael. Codwyd y materion hyn yn gynharach eleni, ac nid ydych wedi mynd i’r afael â hwy o hyd. Rwy’n derbyn eich bod wedi gwneud ymrwymiad tebyg yn awr, ond os na chyflawnwyd yr ymrwymiad gennych yn flaenorol, yn gynharach yn y flwyddyn, sut y gallwn ymddiried ynoch i gyflawni’r ymrwymiad hwnnw yn awr? Gwyddom eisoes fod yna ddysgwyr o Gymru nad ydynt yn gallu sefyll arholiadau seicoleg ac economeg eleni, gan nad yw’r arholiadau ar gael yn y Gymraeg o ganlyniad i aflerwch gan Cymwysterau Cymru, a’ch Llywodraeth yn wir am beidio â’u dwyn i gyfrif am hynny. Felly, gofynnaf ichi eto: pa bryd y byddwch yn mynd i’r afael â’r sefyllfa hon er mwyn sicrhau bod dysgwyr cyfrwng Cymraeg yn gallu sefyll eu harholiadau yn eu hiaith ddewisol a bod gwerslyfrau ar gael iddynt? Mae hyn yn ychwanegu at faich—baich gwaith—athrawon yn ein hysgolion. Fe ddywedoch eich bod am ei leihau—mae hyn yn ychwanegu ato, gan eu bod yn gorfod cyfieithu adnoddau i’w rhoi i’r plant yn eu dosbarthiadau. Mae’n annerbyniol ac mae angen gweithredu, nid geiriau caredig yn unig.
Wrth wraidd fy ymagwedd at addysg, mae’r mater o degwch. Ni ddylai unrhyw blentyn fod o dan anfantais, pa un a ydynt yn dewis astudio drwy gyfrwng y Saesneg, pa un a ydynt yn dewis astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu ba un a ydynt yn dewis mynychu ysgol ddwyieithog. Cynheliais uwchgynhadledd yn y gwanwyn i fynd i’r afael â’r broblem hon gydag adnoddau cyfrwng Cymraeg. Cawsoch wahoddiad ac ni ddaethoch, Darren, sydd efallai’n dangos eich gwir ddiddordeb yn y pwnc. Ers hynny, rydym wedi gweithio gyda CBAC i ddarparu copïau ar-lein a chopïau electronig o adnoddau cyfrwng Cymraeg i leihau’r amser y mae’n rhaid aros amdanynt. Rydym yn gweithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru a CBAC i edrych ar sut y gallwn ddatblygu diwydiant cyhoeddi Cymru er mwyn cyhoeddi ein gwerslyfrau ein hunain, yn hytrach na gorfod dibynnu ar gwmnïau cyhoeddi mawr dros y ffin yn Lloegr. Yn hollbwysig, rydym wedi gallu cytuno ar adnoddau ychwanegol rhyngom ni a Phlaid Cymru i fynd i’r afael â’r mater hwn.
Llefarydd UKIP, Michelle Brown.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddiweddar, dywedodd Philip Hammond ei fod yn ystyried torri oddeutu £5,000 y flwyddyn oddi ar ffioedd dysgu mewn sefydliadau addysg uwch yn Lloegr. Felly, mae gennym sefyllfa lle y mae’n bosib y bydd y ffioedd dysgu yn lleihau yn Lloegr ac rydych wedi cyflwyno benthyciadau myfyrwyr newydd yng Nghymru. Felly, yn y bôn, bydd myfyrwyr Cymru yn edrych ar Loegr os ydynt yn gwneud hyn mewn gwirionedd, ac yn meddwl, ‘Wel, bydd gennyf lai o ddyled os af i astudio yn Lloegr’. Beth yw eich asesiad o’r newid posibl a awgrymwyd gan Philip Hammond, ac a ydych yn debygol o leihau ffioedd dysgu er mwyn achub y blaen arnynt a denu myfyrwyr yn ôl i Gymru?
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir nad yw’n credu bod y systemau addysg uwch yng Nghymru a Lloegr yn gweithredu ar eu pen eu hunain, a bod yn rhaid inni ddarparu’r fframwaith ariannol a rheoleiddiol i ganiatáu i’n sefydliadau gystadlu yn ddomestig ac yn rhyngwladol. Ar y sail honno, rwy’n cadw llygad barcud ar y polisi yn Lloegr, a byddaf yn ystyried goblygiadau unrhyw newidiadau cyn cyflwyno deddfwriaeth yma yn y Siambr hon. Ar gyfer 2017 a 2018, mae lefel y ffioedd yng Nghymru ar hyn o bryd yn is na’r uchafswm a ganiateir yn Lloegr.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn ôl ffigurau a roddwyd gan y BBC yn gynharach eleni, amcangyfrifir bod dyled myfyrwyr yng Nghymru oddeutu £3.7 biliwn, gyda’r ddyled gyfartalog ymysg graddedigion yng Nghymru eisoes ychydig dros £19,000. Roedd hynny cyn i chi orfodi myfyrwyr Cymru, i bob pwrpas, i ysgwyddo rhagor o ddyled. Gallwch ddweud yr eir i ddyled yn gyfnewid am yr hyn a elwir yn bremiwm graddedigion, ond gadewch i ni gofio y bydd y graddedigion hynny’n talu trethi drwy’u trwynau yn nes ymlaen yn eu bywydau fel y gweddill ohonom, felly mae hynny braidd yn gamarweiniol. Fel y dywedais, rydych wedi penderfynu cynyddu dyledion myfyrwyr Cymru hyd yn oed ymhellach. Yn y pen draw, bydd ganddynt ddyledion cymaint â morgais, a byddant yn cymryd blynyddoedd i’w had-dalu wrth iddynt ddechrau mewn bywyd. A ydych yn credu bod hyn yn helpu economi Cymru, ac os felly, sut?
Un cyhoeddiad a groesawaf yn fawr gan y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan yw eu bod wedi cytuno i newid y trothwy ad-dalu ar gyfer benthyciadau myfyrwyr. Yn wir, ysgrifennais at Jo Johnson, y Gweinidog prifysgolion a gwyddoniaeth, yn ôl ym mis Gorffennaf ac ym mis Medi eleni i egluro fy mhryderon ynglŷn â faint o log a oedd yn cael ei dalu ar fenthyciadau, yn ogystal â mater y trothwy. Felly, croesawaf yn fawr y penderfyniad i gynyddu’r trothwy i oddeutu £25,000, a byddaf yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau y gellir rhoi’r newid hwnnw ar waith yma yng Nghymru yn gyntaf. Ond yr hyn nad yw’r Aelod yn ei gydnabod yw nad benthyciadau ffioedd yw’r gwir rwystr i bobl, yn enwedig pobl o gefndiroedd tlotach, rhag cael mynediad at addysg uwch, ond yn hytrach, costau a delir ymlaen llaw. Sut rydych yn talu am eich llety? Sut rydych yn talu am eich adnoddau? A dyna pam fod y Llywodraeth hon yn cyflwyno’r system fwyaf blaengar yn Ewrop i roi cymorth i israddedigion, myfyrwyr rhan-amser ac ôl-raddedigion.
Wel, Ysgrifennydd y Cabinet, gallwch ei alw’n flaengar os mynnwch; gosod baich dyled ar bobl ifanc rwyf fi’n ei alw. Felly, dyna’r sefyllfa rydym ynddi beth bynnag; rydych wedi arddel eich safbwynt. Fel y dywedais, bydd y myfyrwyr hyn yn mynd i lawer iawn o ddyled ar adeg yn eu bywydau pan nad ydynt, efallai, wedi arfer trin symiau mawr o arian, rheoli cyllideb fisol neu reoli cyllideb chwarterol yn effeithiol. Felly, sut y bwriadwch sicrhau bod y myfyrwyr hyn yn cael cyngor ariannol cyfrifol a thrylwyr cyn cael benthyciad, fel nad ydynt yn gwneud pethau fel cael benthyciadau diwrnod cyflog a chardiau credyd er mwyn talu am lety a ddylai gael ei ddarparu gan y prifysgolion yn y pen draw? Felly, pa systemau cymorth y byddwch yn eu rhoi ar waith i sicrhau bod myfyrwyr yn cael y cyngor ariannol cywir cyn gwneud y penderfyniadau hyn, a pha fath o gyngor ar ddyledion a fydd ar gael i raddedigion pan fyddant yn gadael?
Gadewch imi fod yn hollol glir, oherwydd nid wyf yn siŵr a yw’r Aelod yn deall. Bydd pob myfyriwr yng Nghymru y flwyddyn nesaf yn gymwys i gael grant o £1,000 nad oes angen ei ad-dalu. Ar gyfer myfyrwyr o’n cefndiroedd tlotaf, byddant yn cael yr hyn sy’n cyfateb i gyflog byw tra byddant yn astudio i dalu am y llety y siaradoch amdano. Dyma’r system fwyaf blaengar yn Ewrop. Rydych yn llygad eich lle: mae materion yn codi o ran sut y gallwn gynorthwyo myfyrwyr i ddefnyddio’u hadnoddau’n briodol. Dyna pam rydym yn gweithio gyda’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr i weld a allem ddarparu’r grantiau hynny’n fisol yn hytrach na rhoi siec fawr ar ddechrau’r flwyddyn.
Tynnwyd cwestiwn 3 (OAQ51130) yn ôl. Felly cwestiwn 4—Eluned Morgan.