<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 4 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:41, 4 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, mae etholwr wedi cysylltu â mi—ac roeddech chi’n sôn am gyflog ac amodau—ac roedd hi’n ennill £115 y dydd fel athrawes gyflenwi. Mae hi bellach wedi cael llythyr gan ei hawdurdod lleol yn dweud bod yn rhaid i bob ysgol weithio drwy’r asiantaeth athrawon cyflenwi breifat, New Directions, gydag ychydig iawn o eithriadau. Ac mae hi’n dweud wrthyf y bydd hynny’n golygu y bydd ei chyflog yn gostwng i £85 y dydd, gan fod New Directions yn cadw oddeutu 30 y cant o’r arian a delir gan ysgolion am athrawon cyflenwi. A oes unrhyw syndod fod prinder cynyddol o athrawon cyflenwi, yn enwedig mewn rhai pynciau? A ydych yn derbyn bod ein hathrawon cyflenwi yn haeddu gwell cynnig a chyflog tecach?