Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 4 Hydref 2017.
Wel, nid ydych wedi ateb y cwestiwn ynglŷn ag a ydynt yn cael cynnig teg yn hyn o beth. Oherwydd mae athro cyflenwi arall yn dweud wrthyf ei fod yn ystyried rhoi’r gorau i swydd y mae wedi’i gwneud ers 18 mlynedd oherwydd y gostyngiad sylweddol y mae’n ei wynebu yn ei gyflog. Ac yn y cyfamser, wrth gwrs, mae’n dweud wrthyf ei fod yn gweld New Directions yn talu difidend o £100,000 yr un i’w gyfarwyddwyr, a chyfran mewn difidend pellach o £430,000 gan riant-gwmni’r cwmni. Ar yr union adeg y mae ein hysgolion yn dibynnu fwyfwy ar athrawon cyflenwi am eu gwasanaethau a’u cymorth, rydych yn gwthio’r posibilrwydd o ddiwygio ddwy flynedd, efallai tair blynedd, ymhellach i’r dyfodol. Nawr, yn y cyfamser, mae cyflogau athrawon cyflenwi yn gostwng. Felly, a ydych yn credu ei bod hi’n iawn fod asiantaeth breifat yn mynd â thraean o gyflog athrawon cyflenwi?