<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 4 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 1:44, 4 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yr haf hwn, cafwyd y canlyniadau TGAU gwaethaf yng Nghymru ers degawd, gyda’r cyfraddau pasio ar eu lefelau isaf ers 2006. Mae hynny’n rhoi tystiolaeth bellach inni fod gweinyddiaethau olynol o dan Lafur Cymru—a’r Llywodraeth glymblaid hon bellach—yn gwneud cam â phlant a phobl ifanc yma yng Nghymru. Beth a wnewch i wella’r sefyllfa hon?