<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 4 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP 1:50, 4 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddiweddar, dywedodd Philip Hammond ei fod yn ystyried torri oddeutu £5,000 y flwyddyn oddi ar ffioedd dysgu mewn sefydliadau addysg uwch yn Lloegr. Felly, mae gennym sefyllfa lle y mae’n bosib y bydd y ffioedd dysgu yn lleihau yn Lloegr ac rydych wedi cyflwyno benthyciadau myfyrwyr newydd yng Nghymru. Felly, yn y bôn, bydd myfyrwyr Cymru yn edrych ar Loegr os ydynt yn gwneud hyn mewn gwirionedd, ac yn meddwl, ‘Wel, bydd gennyf lai o ddyled os af i astudio yn Lloegr’. Beth yw eich asesiad o’r newid posibl a awgrymwyd gan Philip Hammond, ac a ydych yn debygol o leihau ffioedd dysgu er mwyn achub y blaen arnynt a denu myfyrwyr yn ôl i Gymru?