Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 4 Hydref 2017.
Gadewch imi fod yn hollol glir, oherwydd nid wyf yn siŵr a yw’r Aelod yn deall. Bydd pob myfyriwr yng Nghymru y flwyddyn nesaf yn gymwys i gael grant o £1,000 nad oes angen ei ad-dalu. Ar gyfer myfyrwyr o’n cefndiroedd tlotaf, byddant yn cael yr hyn sy’n cyfateb i gyflog byw tra byddant yn astudio i dalu am y llety y siaradoch amdano. Dyma’r system fwyaf blaengar yn Ewrop. Rydych yn llygad eich lle: mae materion yn codi o ran sut y gallwn gynorthwyo myfyrwyr i ddefnyddio’u hadnoddau’n briodol. Dyna pam rydym yn gweithio gyda’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr i weld a allem ddarparu’r grantiau hynny’n fisol yn hytrach na rhoi siec fawr ar ddechrau’r flwyddyn.