Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 4 Hydref 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, dengys ffigurau Stonewall Cymru fod dros hanner y bobl ifanc Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol yng Nghymru wedi wynebu cam-drin corfforol neu eiriol yn yr ysgol. Dim ond chwarter y disgyblion Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol a oedd wedi cael eu bwlio a ddywedodd fod yr athrawon wedi ymyrryd, ac mae hynny’n peri cryn bryder a gofid i mi ar yr un pryd. Mae Stonewall Cymru yn awyddus i’r holl staff ysgol gael eu hyfforddi i fynd i’r afael â bwlio gwrth-Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol, ac i Estyn chwarae rhan weithredol yn sicrhau bod ysgolion yn creu amgylchedd diogel i ddisgyblion Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau y byddwch yn eu cymryd i ddiogelu disgyblion Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol yn ein hysgolion yng Nghymru, os gwelwch yn dda?