Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 4 Hydref 2017.
Llywydd, mae’r Aelod yn gofyn pwy a ddylai berchnogi’r safonau hyn: y proffesiwn. Dylai’r proffesiwn berchnogi’r safonau, ac rwy’n falch o ddweud bod cefnogaeth eang yn y proffesiwn i’r safonau newydd hyn. Mae ein cynigion newydd yn gosod pum safon allweddol newydd yn lle’r 55 o safonau blaenorol, ac wrth gwrs, mae gan Gyngor y Gweithlu Addysg rôl bwysig iawn yn helpu i’w datblygu. Ar hyn o bryd, mae’r safonau hynny wedi’u hymgorffori ym mhasbort dysgu proffesiynol Cyngor y Gweithlu Addysg, a byddaf yn parhau i adolygu a ddylai rôl Cyngor y Gweithlu Addysg fod yn fwy yn y maes penodol hwn.