<p>Safonau Proffesiynol Newydd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 4 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 2:04, 4 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Rwyf am fod yn gwbl glir: mae Cyngor y Gweithlu Addysg wedi chwarae rhan yn natblygiad y safonau proffesiynol, ynghyd ag Estyn ac undebau’r gweithlu, ac fe gawsant yr holl wybodaeth drwy gydol y broses. Ar hyn o bryd, nid fy mwriad yw ymestyn eu cylch gwaith i safonau addysgu proffesiynol.

O ran y mater arall a godwyd gennych, mae fy swyddogion wedi gofyn i Gyngor y Gweithlu Addysg am dystiolaeth gadarn ynglŷn â pham y dylid cyflwyno’r newidiadau y maent yn eich lobïo amdanynt. A phan ddaw’r dystiolaeth honno i law, byddaf yn ei hystyried.