Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 4 Hydref 2017.
Gweinidog, mewn datganiad yn ôl ym mis Ebrill, a gyfeiriai, yn rhannol o leiaf, at hybu defnydd o’r Gymraeg, fe egluroch chi sut yr hoffech ganolbwyntio ar gydgysylltu a chomisiynu cymorth ymarferol i hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg ymhlith busnesau bach. Nawr, daeth oddeutu £4 miliwn o’r brif gyllideb addysg i gyllideb y Gymraeg eleni at ddibenion cefnogi addysg, a thybed a yw’n glir eto a yw’r broses o baratoi pobl ifanc ar gyfer defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, sef y gefnogaeth orau y gallwch ei rhoi, yn amlwg, yn cael ei chefnogi drwy’r system addysg, drwy fagloriaeth Cymru, hyfforddiant technoleg gwybodaeth, neu yn anad dim, drwy ymgorffori’r defnydd o’r Gymraeg mewn cyrsiau galwedigaethol ar gyfer gyrfaoedd sy’n ymwneud â’r cyhoedd.