1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 4 Hydref 2017.
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyflawni targed Llywodraeth Cymru o un filiwn o siaradwyr Cymraeg drwy’r system addysg? (OAQ51112)
Mae addysg yn un o’r meysydd allweddol sy’n sail i’n huchelgais i gyflawni’r targed o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Bydd sicrhau’r cynnydd yn nifer y plant a phobl ifanc a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog yn flaenoriaeth i bob un ohonom.
Diolch. Hoffwn sôn am brofiad ysgol yn fy rhanbarth, sef Ysgol Gymraeg Nant Caerau yng ngorllewin Caerdydd. Yn 2012, roedd gan yr ysgol 86 o ddisgyblion ar safle a gynlluniwyd ar gyfer plant pedair i saith oed. Erbyn hyn, mae gan yr ysgol 240 o ddisgyblion rhwng pedair ac 11 oed, ac maent yn gorfod troi plant ymaith. Mae ysgolion mewn ardaloedd eraill wedi cael eu hymestyn, ond mae’n rhaid i Nant Caerau fodloni ar safle bychan ac mae maint yr arwynebedd yn llai na hanner yr hyn a argymhellir yng nghanllawiau’r Llywodraeth. Mae darn o dir ger yr ysgol y gellid ei ddefnyddio, ac mae hynny’n gwneud synnwyr perffaith i mi a phawb arall, bron â bod, ond mae’r cyngor yn llusgo’u traed.
Felly, a ydych yn cytuno, os ydym am gynyddu’r defnydd o’r iaith Gymraeg mewn ardaloedd fel Caerau a Threlái, fod angen inni fuddsoddi mewn safleoedd fel hyn? Ac a wnewch chi gyfarfod â rhieni i annog cyngor Caerdydd i wneud rhywbeth ynglŷn â’r safle cyn gynted ag y bo modd?
Llywydd, bydd yr Aelodau’n ymwybodol, o’r datganiad busnes ddoe, y byddaf yn gwneud datganiad llafar ar gynlluniau addysg Gymraeg ddydd Mawrth nesaf. Bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol fy mod wedi comisiynu Aled Roberts i edrych ar yr holl gynlluniau strategol ar gyfer addysg a gyhoeddwyd gan yr awdurdodau lleol, yn y gwanwyn, a chyhoeddodd yr adroddiad hwnnw yn yr haf. O ran yr enghraifft a grybwyllodd yr Aelod, buaswn yn awgrymu y dylai godi’r mater gyda’i gyngor lleol.
Gweinidog, mewn datganiad yn ôl ym mis Ebrill, a gyfeiriai, yn rhannol o leiaf, at hybu defnydd o’r Gymraeg, fe egluroch chi sut yr hoffech ganolbwyntio ar gydgysylltu a chomisiynu cymorth ymarferol i hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg ymhlith busnesau bach. Nawr, daeth oddeutu £4 miliwn o’r brif gyllideb addysg i gyllideb y Gymraeg eleni at ddibenion cefnogi addysg, a thybed a yw’n glir eto a yw’r broses o baratoi pobl ifanc ar gyfer defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, sef y gefnogaeth orau y gallwch ei rhoi, yn amlwg, yn cael ei chefnogi drwy’r system addysg, drwy fagloriaeth Cymru, hyfforddiant technoleg gwybodaeth, neu yn anad dim, drwy ymgorffori’r defnydd o’r Gymraeg mewn cyrsiau galwedigaethol ar gyfer gyrfaoedd sy’n ymwneud â’r cyhoedd.
Rwy’n gobeithio bod hynny’n digwydd. Cefais gyfarfod yr wythnos diwethaf gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i drafod sut y gallwn ehangu a pharhau i gyflawni’r gwaith a argymhellwyd gan Delyth Evans yn ei grŵp gorchwyl a gorffen, a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet yn yr haf. Byddwn yn disgwyl ac yn rhagweld y bydd yn rhaid i’r holl elfennau gwahanol hynny fod ar waith. Byddaf yn cyhoeddi cynllun ar gyfer cynnwys dysgu’r Gymraeg mewn addysg erbyn diwedd y flwyddyn, a bydd rhai o’r elfennau hynny’n cael sylw yn y cynllun hwnnw. Fel arall, fe welwch o’r strategaeth a gyhoeddwyd gennym cyn toriad yr haf fod gennym dargedau ar waith i gynyddu nifer yr athrawon a staff addysgu sydd ar gael i allu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ac i addysgu Cymraeg—cynnydd sylweddol erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn—ac rydym eisoes wedi sefydlu ein rhaglenni ar gyfer cyflawni’r targedau hynny. Byddwn yn fwy na pharod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ar adegau priodol drwy gydol tymor y Cynulliad hwn.
Yn ôl adolygiad Aled Roberts o gynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg, a gwblhawyd ar ran y Llywodraeth—mae Aled Roberts yn dweud bod y cynlluniau yn dangos bod angen gwneud llawer iawn mwy os ydym am adlewyrchu’r dyheadau yn strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer 2010 heb sôn am ofynion mwy uchelgeisiol strategaeth newydd y Llywodraeth i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050’ ac mae’r mwyafrif o awdurdodau lleol yn awyddus i gyfrannu at ddyheadau’r Llywodraeth o sicrhau 1 filiwn o siaradwyr. O edrych ar eich strategaeth iaith chi, Cymraeg 2050, nid oes yna dargedau a meini prawf cenedlaethol a dim targedau a meini prawf ar gyfer pob awdurdod lleol er mwyn nodi sut fydd pob awdurdod yn cyfrannu at gyrraedd y nod uchelgeisiol yma. Rydych chi’n sôn eich bod chi’n gwneud datganiad yr wythnos nesaf ynglŷn â’r WESPs. A fyddwch chi, yn eich ymateb i adroddiad Aled Roberts, yn cyflwyno’r targedau a’r meini prawf angenrheidiol yma ar gyfer y Llywodraeth ac ar gyfer awdurdodau lleol?
Mi fuaswn i’n awgrymu, yn garedig iawn, fod yr Aelod yn darllen eto’r strategaeth y bu imi ei chyhoeddi ym mis Gorffennaf. Ac os byddech chi’n darllen y rhaglen waith a gafodd ei chyhoeddi ar yr un pryd, mi fuasech chi’n gweld bod meini yn hynny sy’n dangos ein bod yn cynllunio ar gyfer cynyddiad yn nifer y plant sy’n derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg a faint o athrawon fydd eu hangen i gyrraedd y targedau felly, ac mae’r targedau yno ar gyfer diwedd y Cynulliad yma ac ar gyfer y blynyddoedd wedi hynny. Felly, mae yna rywfaint o dargedau yn y fanna, yn y rhaglen gwaith ac yn y strategaeth ei hun.
Pan mae’n dod i gyhoeddi’r cynlluniau strategol, wrth gwrs, mater i’r awdurdodau lleol ydy hynny. Nid yw’n fater i’r Llywodraeth yma i wneud hynny. Mae’n fater i bob awdurdod ei hun i wneud hynny, ac rydw i wedi ysgrifennu at bob un o’r awdurdodau lleol yn ystod yr haf ac rydw i’n disgwyl i’r awdurdodau gyhoeddi eu cynlluniau, fe fuaswn i’n gobeithio, cyn diwedd y flwyddyn.