Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 4 Hydref 2017.
Mae’r Aelod yn gwneud pwynt gwerth chweil, ac mae angen inni ystyried, bob amser, sut y gallwn gael gwared ar y rhwystrau sy’n effeithio ar allu pobl i ddysgu. Rydym ni, fel Llywodraeth, wedi datblygu ein llwybr atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc, a lansiwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn hwyr y llynedd, sy’n nodi dull cynhwysfawr o gynorthwyo pobl ifanc i osgoi digartrefedd, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant wedi cyhoeddi £2.6 miliwn ychwanegol yn gynharach y mis diwethaf ar gyfer prosiectau newydd, a fydd yn canolbwyntio’n benodol ar fynd i’r afael â chysgu ar y stryd a digartrefedd ymhlith pobl ifanc.