Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 4 Hydref 2017.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, ac yn sicr, rwy’n croesawu’r buddsoddiad mawr ei angen hwnnw gan Lywodraeth Cymru. Fel y byddai’r rhan fwyaf ohonom yn cytuno, rwy’n siŵr, er bod gweithgarwch nad yw’n ymwneud ag addysgu yn hanfodol i’r gwaith o redeg ysgol, byddai’n llawer gwell pe bai amser athrawon yn cael ei dreulio’n addysgu, ac mae lleihau beichiau diangen yn hanfodol er mwyn cyflawni hynny. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, yn ôl yr hyn a ddeallaf, bydd cynllun peilot yn cael ei gyflwyno mewn 11 ardal awdurdod lleol mewn grwpiau o ysgolion cynradd. A oes gennych unrhyw fanylion ynglŷn ag a fydd unrhyw un o’r rheini yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, ac a oes gennych unrhyw syniad pa bryd y gallwn ddisgwyl gweld yr ysgol gyntaf yn cyflogi rheolwyr busnes?