Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 4 Hydref 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, un ffordd o helpu i leihau beichiau diangen ar athrawon yw annog mwy o ddeialog rhwng arweinwyr ysgolion ac athrawon drwy asesiadau effaith anffurfiol o lwyth gwaith pan fydd polisïau newydd yn cael eu cyflwyno, er mwyn sicrhau bod trafodaeth adeiladol a gonest am effaith polisïau’r Llywodraeth yn mynd rhagddi’n barhaus. Felly, byddwn yn ddiolchgar os gallwch ddweud wrthym a yw hyn yn rhywbeth rydych yn ei argymell, ac os felly, a allech ddweud ychydig mwy wrthym ynglŷn â sut y mae eich trafodaethau gyda phenaethiaid ac arweinwyr ysgolion ynglŷn â chyflwyno rhyw fath o asesiadau effaith o lwyth gwaith yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd?