Part of the debate – Senedd Cymru am 6:15 pm ar 4 Hydref 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i’r holl Aelodau am eu cyfraniadau, ac yn enwedig yr Aelod dros Lanelli am gyflwyno’r ddadl hon heddiw? Roeddwn i eisiau dechrau fy nghyfraniad drwy ddiolch i Lee hefyd am y trafodaethau rydym ni ac Aelodau eraill wedi eu cael dros yr ychydig fisoedd diwethaf ynglŷn â’r mater hwn. Efallai nad ydym wedi cytuno bob amser, ond rwyf wedi gwerthfawrogi’r her ymarferol y mae Lee ac eraill wedi ei darparu i’r prosiect hwn. Yn yr un ysbryd, mae yna rai pethau pwysig rwyf am roi sylw iddynt yn fy ymateb heddiw.
Mae’n hanfodol ein bod yn dechrau drwy gydnabod y problemau parhaus sy’n gwaethygu ar yr M4 o amgylch Casnewydd a bod yn rhaid eu datrys. Nid cymudwyr yn unig sy’n wynebu’r problemau hyn ar y draffordd, maent yn broblemau a wynebir gan drigolion Casnewydd ac economi ehangach Cymru: problemau tagfeydd o amgylch twnelau Bryn-glas; problemau pan fo bysus yn hwyr yn rheolaidd neu’r heddlu a’r cyngor yn cael eu hatal rhag gwneud eu gwaith gan bobl sydd ond yn ceisio osgoi’r tagfeydd ar y draffordd; problemau ansawdd aer, wedi eu gwaethygu gan draffig yn stopio ac ailgychwyn; yr effaith ar enw da ac effaith economaidd porth i Gymru sy’n annibynadwy; a rhwystr i fewnfuddsoddiad. Mae annigonolrwydd yr M4 fel y mae ar hyn o bryd o amgylch Casnewydd yn glir i bawb ei weld.
Cafodd y ffordd ei chynllunio yn gyntaf yn y 1950au nid fel traffordd, ond fel ffordd osgoi Casnewydd. Mae ymhell islaw’r safon ar gyfer traffyrdd modern, gyda chyfyngu ar nifer lonydd, lleiniau caled ysbeidiol, aliniad gwael a chyffyrdd aml. Mae gwelliannau i’r llain ganol a therfyn cyflymder newidiol wedi gwella’r sefyllfa, ond nid yw ‘gwneud y tro a thrwsio’ bellach yn ddewis polisi cynaliadwy i ddiwallu anghenion hirdymor Cymru. Mae mynd i’r afael â’r tagfeydd a moderneiddio’r hyn sy’n ddarn hollbwysig o seilwaith yng Nghymru yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru. Dyna pam y dywedodd y Llywodraeth ddiwethaf yn glir iawn yn y Cynulliad diwethaf ei bod am ddarparu ffordd liniaru ar gyfer yr M4, ac ailddatganodd fy mhlaid yr addewid hwnnw yn ei maniffesto ar gyfer etholiad y Cynulliad 2016. Pleidleisiodd pobl Cymru ar yr ymrwymiad hwnnw wedyn, ac aeth i mewn i’n rhaglen lywodraethu. Nid yw’r ymrwymiadau a’r gefnogaeth hon yn rhoi siec wag i Lywodraeth Cymru, ond yr hyn y maent yn ei roi yw addewidion, ac mae gennym fandad democrataidd y dylid ei barchu a gweithredu arno.
Byddai’r coridor M4 arfaethedig o amgylch Casnewydd yn fuddsoddiad seilwaith o bwys yng Nghasnewydd, a daw ag achos busnes cryf yn ei sgil a chyfres o fesurau digolledu a lliniaru amgylcheddol wedi’u hymgorffori ynddo. Mae’r arfarniad economaidd yn dangos bod y cynllun yn darparu gwerth da am arian. Mae’r gymhareb cost a budd a addaswyd, sy’n sicrhau manteision o gynyddu dwysedd economaidd, mwy o gystadleuaeth a mwy o fynediad at y farchnad lafur, yn fwy na 2. Mae hynny’n golygu dros y cyfnod arfarnu o 60 mlynedd, fod mwy na £2 o fudd am bob punt a werir ar y cynllun, heb gyffwrdd ar y manteision economaidd ehangach sy’n debygol o ddeillio o’r cynllun, megis canfyddiad cryfach o Gymru fel lle i fuddsoddi, rhywbeth na ellir ei fesur. Byddai’n ategu ac yn integreiddio gyda’n cynlluniau ar gyfer metro dinas-ranbarth Caerdydd, gan ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth cyfannol sy’n addas ar gyfer y dyfodol.
Mae’r ymchwiliad cyhoeddus i’r prosiect hwn gan arolygwyr annibynnol yn caniatáu craffu agored a chadarn i weld a yw’n ateb hirdymor cynaliadwy i’r problemau difrifol sy’n gysylltiedig â’r porth hwn i Gymru. Mae trylwyredd y broses ymchwilio’n briodol i bwysigrwydd y pwnc, ac mae canlyniad yr ymchwiliad hwn o bwys gwirioneddol i Gymru.
Croesewir mewnbwn comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol i’r ymchwiliad hwnnw; rwyf am wneud hynny’n glir iawn. Mae rôl y comisiynydd yn sicrhau bod y dehongliad o’r Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn gadarn yn hynod o bwysig. Rwy’n credu nad yw hi ond yn deg, fodd bynnag, fy mod yn cywiro’r hyn y teimlaf ei fod yn gamddehongliad o lythyr diweddar y comisiynydd yn y wasg. Y ffaith amdani yw bod y comisiynydd yn benodol heb wneud sylwadau ar honiadau a wnaed gan eraill nad yw prosiect yr M4 yn cydymffurfio â’r Ddeddf. Gallaf sicrhau’r holl Aelodau fod egwyddorion, dulliau o weithio a nodau’r Ddeddf wedi cael eu hystyried wrth ddatblygu’r prosiect hwn, a byddant yn parhau i gael eu hystyried yn llawn ac yn gyfartal yn y broses o wneud penderfyniad terfynol ar y prosiect hwn.
Fel rhan o’r dystiolaeth a roddwyd gerbron, cyflwynwyd gwerthusiad o gynaliadwyedd cyffredinol y cynllun i’r ymchwiliad. Cyflawnwyd yr adolygiad gan John Davies, ac roedd yn asesiad trylwyr seiliedig ar dystiolaeth o’r cynllun yng nghyd-destun deddfwriaeth a pholisi perthnasol, gan gynnwys Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Ei gasgliad yw bod y cynllun yn hanfodol i lesiant pobl Cymru, ac y dylai fynd yn ei flaen.
Mae’r egwyddor datblygu cynaliadwy, a ymgorfforwyd yn gyntaf yn Neddf Llywodraeth Cymru, a’i hatgyfnerthu wedyn yn Neddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol, yn atal rhai sy’n gwneud penderfyniadau rhag mabwysiadu ymagwedd fyrdymor ar draul cenedlaethau’r dyfodol. Roedd y pum ffordd o weithio yn nodi’n glir y rhwymedigaethau ar Lywodraeth Cymru i osgoi peryglu buddiannau cenedlaethau’r dyfodol. Mae’r ffyrdd o weithio yn cydnabod y ffaith y gall fod cyfaddawd rhwng amcanion a nodau dymunol. Mae’r egwyddor datblygu cynaliadwy yn galw am gael cydbwysedd. Mae’r egwyddor yn datgan yn glir fod rhaid i gyrff cyhoeddus ystyried pwysigrwydd cydbwyso anghenion byrdymor â’r angen i warchod y gallu hefyd i ddiwallu anghenion hirdymor.
Yn ddiweddar, Dirprwy Lywydd, camodd Llywodraeth Cymru i mewn i ddarparu cymorth ariannol i helpu’r diwydiant dur yng Nghymru, pan roddodd Tata ei safleoedd yn y DU ar werth yn 2016. Mae’r gefnogaeth a roesom wedi bod yn hanfodol i gadw swyddi dur a chynhyrchiant dur yng Nghymru, yn ei safleoedd ym Mhort Talbot, Shotton, Llanwern a Throstre. Cyfaddawd oedd y penderfyniad a’n hwynebai. Nid y diwydiant carbon isel rydym eisiau iddo fod yw’r diwydiant dur heddiw, ond roedd ein penderfyniad i roi cymorth ariannol i achub swyddi yn y gweithfeydd yn ne Cymru, ac yng ngogledd Cymru, yn gyfaddawd yn y tymor byr i roi amser inni gynllunio ar gyfer mwy o dechnegau ynni effeithlon yn y dyfodol, a dyfodol i’r diwydiant y mae pawb ohonom eisiau ei weld, rwy’n siŵr—canlyniad mwy cynaliadwy i genedlaethau’r dyfodol na rhoi miloedd o weithwyr Cymru allan o waith yn y tymor byr. Mae’r egwyddor datblygu cynaliadwy yn mynnu bod y penderfyniadau anodd hyn yn cael eu gwneud yng ngoleuni eu goblygiadau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol yn y tymor byr a’r tymor hir. Mae’r achos hwnnw’n wahanol iawn i’r un rydym yn ei drafod yma, ond mae’n enghraifft arall o’r cydbwysedd sy’n rhaid ei daro.
Clywais rai’n dweud y byddai modd defnyddio’r arian a ddyrannwyd i’r cynllun hwn yn well ar ehangu opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus yn y rhanbarth. Wrth ddatblygu model traffig manwl ar gyfer y prosiect, rydym wedi rhagweld effaith cael gwared ar dollau pont Hafren, ac wedi edrych ar effaith gweithredu ein gweledigaeth ar gyfer y metro. Rydym wedi bwrw golwg hirdymor ar yr hyn sydd ei angen i baratoi rhwydwaith trafnidiaeth de-ddwyrain Cymru ar gyfer y dyfodol; fodd bynnag, mae yna derfyn i’r hyn y byddai metro wedi ei ehangu yn ei wneud. Fel y mae ein dadansoddiad manwl yn egluro, bydd effaith gadarnhaol fwyaf y metro ar batrymau teithio o’r gogledd i’r de, ac nid y teithiau o’r dwyrain i’r gorllewin y mae’r M4 yn darparu ar eu cyfer. Mae’r adroddiad trosolwg ar drafnidiaeth gyhoeddus wedi asesu effaith holl elfennau rheilffordd y metro hyd at 2037, a gorsaf parcio a theithio arfaethedig Llanwern, a gwelodd y byddai llai na 4 y cant o’r traffig ar yr M4 yn cael ei dynnu oddi ar y ffordd, hyd yn oed o ystyried y rhagdybiaethau mwyaf ffafriol ar gyfer newid moddol.
Bydd canlyniad yr ymchwiliad M4 yn llywio penderfyniad ynglŷn ag a ddylid bwrw ymlaen â’r gwaith adeiladu y flwyddyn nesaf. Nid wyf yn gallu gwneud unrhyw sylwadau pellach ar y broses statudol barhaus heblaw dweud y bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gyda safbwynt yn seiliedig ar y wybodaeth lawn ac ar yr holl ddeddfwriaeth, gan gynnwys Deddf cenedlaethau’r dyfodol. Gan edrych yn ehangach na’r M4 yn unig, rwy’n awyddus inni weld y ffordd benodol honno yng nghyd-destun yr uchelgeisiau ehangach sydd gennym fel Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio’r system drafnidiaeth. Un o’r datblygiadau allweddol yn y gwaith hwn fydd y comisiwn seilwaith cenedlaethol rydym yn ei sefydlu i chwarae rôl allweddol yn y gwaith o gynllunio anghenion seilwaith Cymru—anghenion a gynllunnir dros y tymor hir, yn annibynnol ar y Llywodraeth, a helpu i flaenoriaethu penderfyniadau buddsoddi strategol. Rydym yn datblygu ein gwaith cynllunio trafnidiaeth yn barhaus fel y gall gynllunio ar gyfer twf mewn modd cynaliadwy. Mae comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol ei hun wedi croesawu model newydd yr Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru a ddatblygwyd gennym ar gyfer prosiectau cynllunio a thrafnidiaeth.
Dirprwy Lywydd, rhaid inni barhau i ymdrechu i gyflawni newid moddol yn ein system drafnidiaeth, a sicrhau mwy o gydbwysedd yn y ffordd y cynlluniwn atebion trafnidiaeth. Fodd bynnag, dychwelaf at y mater canolog dan sylw: nid yw’r seilwaith presennol ar yr M4 o amgylch Casnewydd yn addas i’r diben. Dyna yw ein casgliad wedi bod ers peth amser. Gwnaed gwelliannau tameidiog a defnyddiol dros amser, a fydd yn gwella’r sefyllfa, gan gynnwys terfyn cyflymder newidiol a moderneiddio twnelau Bryn-glas, ond gohirio’r broblem yn unig y maent wedi ei wneud. Mae’r darn hwn o seilwaith angen ei uwchraddio’n helaeth ar gyfer y tymor hir. Bydd yr ymchwiliad yn dod i ben yn fuan ac rwy’n ymrwymo i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ynglŷn ag unrhyw gynnydd. Diolch.