Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 4 Hydref 2017.
Diolch am y cwestiwn. Gall problemau gyda’r bledren a’r coluddyn effeithio ar bobl o bob oed am amryw o resymau. Gallant achosi cryn ofid ac anghyfleustra, ac amharu’n sylweddol ar fywydau’r rhai yr effeithir arnynt. Gall problemau o’r fath groesi nifer o arbenigeddau, ac rwy’n falch o ddweud bod GIG Cymru yn rhoi camau ar waith i gydgysylltu gwasanaethau, er enghraifft, drwy waith bwrdd wroleg Cymru.