2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru ar 4 Hydref 2017.
1. Pa gamau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i wella gwasanaethau i bobl â phroblemau sy’n effeithio ar y bledren a’r coluddyn yng Nghymru dros y 12 mis nesaf? (OAQ51099)
Diolch am y cwestiwn. Gall problemau gyda’r bledren a’r coluddyn effeithio ar bobl o bob oed am amryw o resymau. Gallant achosi cryn ofid ac anghyfleustra, ac amharu’n sylweddol ar fywydau’r rhai yr effeithir arnynt. Gall problemau o’r fath groesi nifer o arbenigeddau, ac rwy’n falch o ddweud bod GIG Cymru yn rhoi camau ar waith i gydgysylltu gwasanaethau, er enghraifft, drwy waith bwrdd wroleg Cymru.
Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Gweinidog. Mae therapi symbylu’r nerf sacrol yn helpu rhai sy’n dioddef embaras, anghysur a phoen o ganlyniad i broblemau gyda’r bledren a’r coluddyn. Mae’n driniaeth sy’n newid bywydau yn syml iawn. Fodd bynnag, ychydig iawn o gyllid sydd ar gael ar gyfer therapi symbylu’r nerf sacrol, ac nid oes unrhyw ganolfan ar gael yng Nghymru ar gyfer cyflawni’r triniaethau angenrheidiol, gyda chleifion yn gorfod teithio i Loegr i gael triniaeth. Ysgrifennydd y Cabinet, cyfarfûm â meddyg ymgynghorol yr wythnos diwethaf a ddywedodd fod triniaeth resymol a rhad iawn ar gael yn Lloegr—ac yn y wlad hon hefyd, mae’r gweithwyr proffesiynol yma—i blannu sglodyn syml iawn yng nghefn y corff i reoli’r bledren, sy’n ffordd syml iawn o roi cysur i’n pobl hŷn, yn enwedig gan mai menywod yw 90 y cant o’r rhai sy’n dioddef gyda hyn. Pa gamau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu rhoi ar waith i wella mynediad at driniaethau symbylu’r nerf sacrol ar gyfer ein hannwyl famau a thadau, er mwyn sicrhau ansawdd bywyd gyda phroblemau’r bledren a’r coluddyn, er mwyn gwella eu hansawdd bywyd yng Nghymru? Diolch.
Diolch am eich cwestiwn dilynol. Rwyf wedi cael nifer o gyfarfodydd gyda fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Ganol Caerdydd, Jenny Rathbone, ynglŷn â’r mater hwn mewn gwirionedd, oherwydd yr heriau penodol ynghylch menywod sy’n dioddef anafiadau anymataliaeth ysgarthol wrth roi genedigaeth, lle y mae’r broblem yn un sylweddol. Nid wyf yn hollol siŵr a yw’r mater y cyfeiria’r Aelod ato yn un sy’n effeithio ar bobl hŷn yn bennaf, ond rwy’n awyddus i sicrhau bod gennym driniaeth yng Nghymru a argymhellir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Nid yw ar gael yn ddigon cyson yng Nghymru ar hyn o bryd—mae pobl yn teithio y tu allan i Gymru ar sail comisiwn i gael y driniaeth—ac felly, yn dilyn cyfarfod gyda Jenny Rathbone rai misoedd yn ôl, rwyf wedi dweud wrth y gwasanaeth fy mod yn awyddus i weld dull mwy cyson o weithredu. Cyn hyn, yn anffodus, cafodd nifer o bobl eu cyfarwyddo i ddefnyddio proses y Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol. Dyma un o’r achosion lle’r oedd proses y Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol yn cael ei chamddefnyddio, gan fod hon yn driniaeth a gymeradwyir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Nid yw’n driniaeth gymwys ar gyfer y Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol. Mater i’r gwasanaeth yw datblygu dull cyson o ymdrin â phroblem sy’n gymharol gyffredin. Felly, rwy’n edrych ymlaen at weld y cynlluniau a ddaw yn awr gan y grŵp gorchwyl a gorffen sy’n cael ei sefydlu dan arweiniad Julie Cornish, llawfeddyg arbenigol y colon a’r rhefr ar fwrdd iechyd prifysgol Cwm Taf, sy’n arwain y gwaith hwnnw. Dylai hynny sicrhau bod gennym gynllun wedyn i ddarparu gwasanaeth mwy cyson i fenywod yng Nghymru sy’n haeddu cael y driniaeth honno ar gael iddynt ar y sail honno.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn amlwg gall problemau gyda’r bledren arwain at gathetreiddio pobl am amryw o resymau. Mewn adroddiad crwner yn ddiweddar ar farwolaeth mewn cartref nyrsio yn fy etholaeth, yn y Cymer, nodai naratif y crwner nad oedd y staff wedi cael hyfforddiant digonol, gan olygu bod unigolyn a oedd wedi eu cathetreiddio’n hirdymor wedi dioddef o ganlyniad i hynny, a bu farw’r unigolyn hwnnw. A wnewch chi sicrhau bod y byrddau iechyd yn gwbl ymwybodol o’r hyfforddiant sydd angen ei ddarparu er mwyn ymdrin â phreswylwyr a chleifion sy’n cael eu cathetreiddio am gyfnodau hir, fel nad ydynt yn wynebu sefyllfa lle y gallant gael heintiau a septisemia o ganlyniad i hynny, sy’n arwain at farwolaeth yn y pen draw?
Diolch am eich cwestiwn, ac am godi mater arferion diofal mewn cyfleusterau preswyl, nid yn unig mewn ysbytai neu ofal yn y cartref. A dweud y gwir, mae yna her yn hyn o beth sy’n ymwneud â phroses nad yw’n anarferol, ac sy’n eithaf syml mewn gwirionedd; mae’r her yn ymwneud â’r ffordd yr ymdrinnir â chathetrau sydd wedi blocio a’r gofal priodol. Felly, byddaf yn sicr o fynd ar drywydd y mater a byddaf yn edrych eto ar sut y gallwn geisio sicrhau, wrth gomisiynu gofal yn y sector gofal cymdeithasol, ein bod yn deall beth rydym yn ei gomisiynu, ansawdd y gofal a ddarperir, ond yn ogystal â hynny, fod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn deall eu cyfrifoldebau mewn perthynas â’r hyn sydd, yn ei hanfod, yn elfen sylfaenol o ofal a thriniaeth i bobl ym mha ran bynnag o’r system gofal iechyd y maent.