<p>Addysg a Gwella Iechyd Cymru</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 4 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 2:23, 4 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Nodaf hefyd fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod yn hysbysebu am aelodau anweithredol i fwrdd yr awdurdod iechyd ac wedi gwneud cryn dipyn o waith o ran yr adroddiadau a oedd gennym eisoes gan Mel Evans a’r Athro Williams. Tybed a all ddweud beth y mae’n ei wneud i sicrhau y bydd y bwrdd yn gweithredu’n wirioneddol annibynnol, hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru, yn ogystal â sicrhau bod y gwahanol fuddiannau proffesiynol yn cael eu cynrychioli’n briodol ar y bwrdd hwnnw. Credaf y dylai o leiaf dri o’r aelodau anweithredol fod yn siaradwyr Cymraeg. Beth y mae’n ei wneud i sicrhau bod y bwrdd hwnnw’n ystyried proffesiynau penodol yn briodol, er enghraifft nyrsio, gan fod y Cynulliad hwn wedi rhoi cymaint o bwyslais ar yr angen am gymarebau staffio mwy diogel?