Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 4 Hydref 2017.
Wel, diolch am eich ateb. Gall ‘wythnosau nesaf’ olygu unrhyw beth, felly rwy’n gobeithio y gallwch wneud hynny o fewn ychydig iawn o wythnosau.
Fel y gwyddoch, mynegwyd pryderon difrifol yn yr ymgynghoriad â rhanddeiliaid ynglŷn â chael gwared, i bob pwrpas, ar bresenoldeb nyrsio 24 awr mewn cartrefi nyrsio a newid i oruchwylio gofal nyrsio o bell gan unigolyn cyfrifol, a fyddai’n nyrs, ac a allai fod yn goruchwylio unrhyw nifer o gartrefi. Yn benodol, dywedwyd wrthym y byddai hynny’n arwain at fwy o alw am nyrsys ardal a darpariaeth y tu allan i oriau yn lleol pe bai’r unigolyn cyfrifol gryn bellter i ffwrdd pan fyddai’r angen am ofal nyrsio’n codi. Rwy’n siŵr y buasech yn cytuno bod ymyrraeth nyrsio yn gynnar yn atal angen rhag gwaethygu’n rhywbeth sy’n peri mwy o ofid i’r unigolyn ac sy’n costio mwy i’r GIG. A allwch ddweud wrthyf am unrhyw asesiad rydych chi neu Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i wneud o’r galw dadleoledig hwn, a pha waith modelu a wnaed i nodi a oes unrhyw gapasiti i’n niferoedd gostyngol o nyrsys ardal a’n gwasanaeth y tu allan i oriau allu diwallu’r galw dadleoledig hwnnw?