Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 4 Hydref 2017.
Diolch am eich cwestiwn. Yn sicr, roeddem yn argymell y dylid cael gwared ar y gofyniad am nyrsys 24 awr yn y rheoliadau gan ei fod yn llym ac yn gaeth iawn, ac mewn gwirionedd, nid oedd yn darparu’r hyblygrwydd sydd ei angen ar gartrefi preswyl—yr hyblygrwydd y credwn sydd ei angen arnynt—i ddiwallu anghenion y bobl y maent yn gofalu amdanynt yn y ffordd fwyaf priodol. Felly, yn y dyfodol, bydd y datganiad o bwrpas a ddarperir gan gartrefi gofal yn gwbl hanfodol o ran nodi’r gofal y maent yn ei ddarparu ar gyfer y mathau o gyflyrau a fydd gan bobl a’r hyn y byddant ei angen. Felly, credaf fod honno’n ffordd fwy priodol o fwrw ymlaen â’r strwythur staffio yn y cartrefi gofal. Rwy’n deall bod rhywfaint o nerfusrwydd ynghylch hynny; wrth gwrs fy mod. Yn ddiweddar bûm ar ymweliad a drefnwyd gan David Rees â chartref gofal yn ei etholaeth ef, ymweliad a drefnwyd ar y cyd â’r Coleg Nyrsio Brenhinol. Felly, cawsom gyfle i ddatrys rhai o’r pethau penodol a’r pryderon penodol a godwyd gan y proffesiwn nyrsio. Yn sicr, byddwn yn ystyried y rhain i gyd wrth benderfynu ar y camau nesaf.