Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 4 Hydref 2017.
Diolch, Llywydd. Nawr, mae gormod o gleifion yn dal i wynebu amseroedd aros gormodol ar gyfer triniaeth, a hoffwn ganolbwyntio yn gyntaf ar amseroedd aros orthopedig ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Mae gennyf etholwr sydd wedi cael blaenoriaeth glinigol fel rhywun sydd angen llawdriniaeth orthopedig ar frys. Ar hyn o bryd, mae wedi bod yn aros am y driniaeth frys hon ers 66 wythnos ac nid yw’n disgwyl cael triniaeth tan fis Mawrth y flwyddyn nesaf. Mewn llythyr a gefais yn ddiweddar gan y bwrdd iechyd, dywedwyd wrthyf fod rhai cleifion yn gorfod aros am fwy na 100 o wythnosau. Ac nid yw hyn yn dderbyniol mewn unrhyw fodd. Wynebodd eich rhagflaenydd broblem debyg yn ne Cymru mewn perthynas â llawdriniaeth y galon, a gwnaeth benderfyniad ar y pryd i drefnu rhai llawdriniaethau drwy gontract allanol er mwyn lleihau’r rhestrau aros hynny. A wnewch chi’r un peth ar gyfer pobl yng ngogledd Cymru er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hwn?