Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 4 Hydref 2017.
Rwy’n cydnabod bod rhai pobl yn aros am amseroedd annerbyniol o hir, ac mae yna her wirioneddol o ran y bobl sy’n aros am amser hir, yn enwedig yng ngogledd Cymru, a gallu’r bwrdd iechyd i gael y capasiti priodol, gan gynnwys capasiti’r unedau therapi dwys ar gyfer pobl sydd ag anghenion mwy cymhleth. Felly, nid yw’n sefyllfa dderbyniol. Mae’n fater rwyf wedi’i godi’n uniongyrchol, yn amlwg, gyda’r cadeirydd; rwyf mewn cysylltiad rheolaidd bellach gyda’r cadeirydd a’r prif weithredwr. Rwy’n disgwyl i’r cynllun orthopedig y mae’r bwrdd iechyd yn ei gyflwyno fynd i’r afael â’r problemau eleni, yn hytrach nag edrych tua’r dyfodol pan ddywedant y dylai’r broblem fod wedi’i datrys. Os nad ystyrir bod y cynllun hwnnw’n ddigonol, a byddaf yn derbyn cyngor gan swyddogion yma hefyd, bydd yn rhaid i mi ystyried mesurau eraill. Ond mae’n rhaid gwneud hynny ar sail cynnwys y cynllun, a yw’n gredadwy mewn gwirionedd, gan fy mod yn disgwyl i bobl yng ngogledd Cymru allu cael mynediad at ofal amserol o ansawdd da, ac rwy’n cydnabod nad yw hynny’n digwydd o gwbl yn achos rhai pobl.