<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 4 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:36, 4 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Unwaith eto, mae hon yn neges rydym yn ei chlywed dro ar ôl tro, nad yw hwn yn fater unigryw i Gymru, ei bod yn broblem ledled y DU, boed o safbwynt recriwtio neu gadw neu beth bynnag, ond fe wyddom fod hwn yn wasanaeth sy’n cael ei ddarparu mewn rhannau eraill o’r DU. Yn wir, mae arweinydd strôc Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Bryste wedi dweud bod y methiant i gael trefn ar bethau yng Nghaerdydd ac yng Nghymru, yn arbennig, yn golygu bod Cymru’n destun gwawd y gymuned niwrofasgwlaidd ryngwladol. Nid wyf fi, ac nid yw cleifion a staff, eisiau i bobl siarad am ein GIG yn y ffordd honno. Oni allwch weld bod gwahaniaeth enfawr rhwng yr hyn a ddywedwch chi a Llywodraeth Cymru, y disgwyliadau rydych yn hoffi eu creu, a’r realiti i staff a chleifion y GIG, sydd, a bod yn onest, yn haeddu gwell?