Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 4 Hydref 2017.
Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Un o’r gwelliannau mwyaf y gallwn ei wneud i ofal canser y fron—a holl ddiben y mis ymwybyddiaeth—yw gwneud y cyhoedd yn ymwybodol o arwyddion a symptomau canser y fron. Mae canfod canser y fron yn gynnar yn gwella eich gobaith o oroesi, fel y gwn o brofiad personol. Mae hi bellach yn ddeng mlynedd ers i mi gael canser y fron ac achubwyd fy mywyd gan i mi sylwi ar bant yn hytrach na lwmp a chefais ofal o’r radd flaenaf gan y staff rhagorol yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot.
Ysgrifennydd y Cabinet, gall canser y fron ymddangos mewn sawl ffordd, felly mae’n hanfodol fod y cyhoedd yn ymwybodol o’r arwyddion a’r symptomau. Ceir llawer o ddynion nad ydynt yn sylweddoli y gall canser y fron effeithio arnynt—nid yw 54 y cant o ddynion yn y DU erioed wedi archwilio eu hunain am symptomau. Pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i gynnal ymgyrchoedd gwybodaeth i’r cyhoedd am ganser y fron, gan dargedu dynion a menywod?