Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 4 Hydref 2017.
Fe edrychaf, ond nid wyf yn ymwybodol fod yna gynllun penodol gan Lywodraeth Cymru i gynnal ymgyrch wedi’i thargedu at ddynion, ond rydym yn cydnabod bod y trydydd sector yn mynd ati’n arbennig o weithgar i hyrwyddo ymwybyddiaeth. Rwy’n meddwl mewn gwirionedd mai’r peth mwyaf a wyddom, gan fod tystiolaeth fod hyn yn effeithiol ar sail sgrinio poblogaeth, yw gwneud yn siŵr mewn gwirionedd fod mwy o bobl yn defnyddio gwasanaeth sgrinio canser y fron yn y dyfodol. Mae gennym her gyda dynion a’u hymwybyddiaeth o ganser y fron—gyda dynion yn gyffredinol a’u hymwybyddiaeth o’u hiechyd eu hunain ar ystod eang o bethau mewn gwirionedd. Mae yna her ehangach, nid yn unig o ran deall bod problem, ond rwy’n credu y gellir gwneud y cynnydd mwy ym maes atal sylfaenol mewn gwirionedd, a deall y patrymau ymddygiad—drwy ddeiet, ymarfer corff, alcohol ac ysmygu—lle’r ydym yn fwy tebygol o fynd yn sâl, gan gynnwys dioddef amryw o ganserau, a chymryd mwy o berchnogaeth a rheolaeth dros y pethau y gallwn eu gwneud drosom ein hunain.