<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 4 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 2:44, 4 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym i gyd yn gwybod bod atal yn well na gwella. Er y gallwn roi camau ar waith i fynd i’r afael â rhai o’r ffactorau risg sy’n gysylltiedig â chanser y fron, mae Breast Cancer Now yn tynnu sylw at y ffaith na allwn fynd i’r afael â’r ffactorau risg mwyaf: bod yn fenyw a mynd yn hŷn. Fodd bynnag, gallwn roi camau ar waith i leihau’r risg o gael canser y fron yn lledaenu i rannau eraill o’r corff. Mae Breast Cancer Now yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella mynediad at feddyginiaethau ataliol, megis bisffosffonadau. Ysgrifennydd y Cabinet, beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i wella mynediad at feddyginiaethau oddi ar y patent ar gyfer cleifion canser y fron yng Nghymru?