Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 4 Hydref 2017.
Rwy’n disgwyl adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru ar y system technoleg a rheoli gwybodaeth ehangach yn GIG Cymru. Rwy’n disgwyl iddo gael ei gwblhau o fewn y tri neu bedwar mis nesaf, a bydd y trefniadau llywodraethu yn rhan o’r adolygiad hwnnw gan Swyddfa Archwilio Cymru, ac wrth gwrs, byddaf yn disgwyl i hynny gynnwys Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. Wedyn byddaf yn ystyried argymhellion yr adolygiad hwnnw ar ôl iddynt gael eu cwblhau.