Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 4 Hydref 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, nodais y sylwadau a wnaethoch yn gynharach. Gan eich bod wedi mynychu rhan o’r cyfarfod a gynhaliwyd yn Nhŷ Hywel yr wythnos diwethaf, fe fyddwch yn ymwybodol fod hon yn broblem fawr ac mae’n cael sylw gan elusen newydd o’r enw MASIC i famau sydd wedi cael anafiadau i sffincter yr anws wrth roi genedigaeth. Roedd hi’n drawiadol clywed tystiolaeth gan dair o fenywod a oedd wedi dioddef anafiadau a oedd wedi newid eu bywydau o ganlyniad i rwygiadau o’r drydedd a’r bedwaredd radd yn ystod genedigaeth. Mae eu hanymataliaeth ysgarthol wedi ei gwneud hi’n ofynnol i bob un ohonynt roi’r gorau i’w gyrfaoedd—roedd un ohonynt yn nyrs damweiniau ac achosion brys ac un arall yn ficrobiolegydd—ac yn amlwg, effeithiai’n helaeth ar bob dim yn eu bywydau.
Mae gwybod bod nifer yr anafiadau hyn wedi treblu yn y degawd diwethaf yn destun pryder. Yn gyffredinol, amcangyfrifir bod un o bob 10 o fenywod yn cael eu heffeithio gan anymataliaeth ysgarthol, yn enwedig erbyn adeg y menopos. Felly, mae’r broblem yn eang a heb gael ei thrafod nes yn awr. Mae’n dda ein bod wedi cael cwestiwn cynharach ar bwnc anymataliaeth; nid ydym yn aml yn siarad am y math hwn o beth. Mae gennyf ddau gwestiwn, mewn gwirionedd. Un yw: pam nad oes ffisiotherapi ar gael i bob mam ar ôl rhoi genedigaeth? Mae’n arferol mewn llefydd fel Ffrainc. Yn ail, pam mai Cymru yw’r unig ran o Gymru a Lloegr lle na all mamau gael triniaeth anymyrrol i symbylu’r nerf sacrol, er iddi gael ei chymeradwyo gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol ers dros 10 mlynedd a’i bod yn driniaeth lwyddiannus yn nhri chwarter yr achosion o anymataliaeth ysgarthol lle y mae triniaeth gadwrol fel ffisiotherapi wedi methu?