2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru ar 4 Hydref 2017.
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet egluro pa wasanaethau sydd ar gael yng Nghymru ar gyfer mamau sy’n dioddef anafiadau i sffincter yr anws wrth roi genedigaeth? (OAQ51126)
Mae gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru yn gweithio ar y cyd â gwasanaethau ffisiotherapi a gwasanaethau ymataliaeth arbenigol. Mae’r gwasanaethau hyn yn darparu asesiad ac yn nodi problemau sy’n cynnwys anymataliaeth ysgarthol ac wrinol, gan atgyfeirio at wasanaethau arbenigol ar gyfer triniaeth a chynlluniau gofal unigol.
Ysgrifennydd y Cabinet, nodais y sylwadau a wnaethoch yn gynharach. Gan eich bod wedi mynychu rhan o’r cyfarfod a gynhaliwyd yn Nhŷ Hywel yr wythnos diwethaf, fe fyddwch yn ymwybodol fod hon yn broblem fawr ac mae’n cael sylw gan elusen newydd o’r enw MASIC i famau sydd wedi cael anafiadau i sffincter yr anws wrth roi genedigaeth. Roedd hi’n drawiadol clywed tystiolaeth gan dair o fenywod a oedd wedi dioddef anafiadau a oedd wedi newid eu bywydau o ganlyniad i rwygiadau o’r drydedd a’r bedwaredd radd yn ystod genedigaeth. Mae eu hanymataliaeth ysgarthol wedi ei gwneud hi’n ofynnol i bob un ohonynt roi’r gorau i’w gyrfaoedd—roedd un ohonynt yn nyrs damweiniau ac achosion brys ac un arall yn ficrobiolegydd—ac yn amlwg, effeithiai’n helaeth ar bob dim yn eu bywydau.
Mae gwybod bod nifer yr anafiadau hyn wedi treblu yn y degawd diwethaf yn destun pryder. Yn gyffredinol, amcangyfrifir bod un o bob 10 o fenywod yn cael eu heffeithio gan anymataliaeth ysgarthol, yn enwedig erbyn adeg y menopos. Felly, mae’r broblem yn eang a heb gael ei thrafod nes yn awr. Mae’n dda ein bod wedi cael cwestiwn cynharach ar bwnc anymataliaeth; nid ydym yn aml yn siarad am y math hwn o beth. Mae gennyf ddau gwestiwn, mewn gwirionedd. Un yw: pam nad oes ffisiotherapi ar gael i bob mam ar ôl rhoi genedigaeth? Mae’n arferol mewn llefydd fel Ffrainc. Yn ail, pam mai Cymru yw’r unig ran o Gymru a Lloegr lle na all mamau gael triniaeth anymyrrol i symbylu’r nerf sacrol, er iddi gael ei chymeradwyo gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol ers dros 10 mlynedd a’i bod yn driniaeth lwyddiannus yn nhri chwarter yr achosion o anymataliaeth ysgarthol lle y mae triniaeth gadwrol fel ffisiotherapi wedi methu?
Diolch am y cwestiynau dilynol. Unwaith eto, rwy’n cydnabod mai’r Aelod dros Ganol Caerdydd a dynnodd fy sylw’n iawn at y mater hwn am y tro cyntaf. Rwy’n credu bod angen inni gychwyn gyda’r pwynt fy mod yn wirioneddol falch o gael y swydd hon, i allu sefyll a gweithio gyda’r gwasanaeth iechyd gwladol, ond mae’n rhaid i mi gydbwyso hynny â’r gydnabyddiaeth nad yw’r gwasanaeth bob amser yn ei gael yn iawn. Dyma faes nad wyf yn credu ei fod wedi cael y sylw a ddylai yn y gorffennol o bosibl.
Yr her bellach yw sut y gallwn gyrraedd lle y dylem fod wedi cyrraedd. Dyna pam y mae’r grŵp gorchwyl a gorffen sy’n cael ei arwain gan Julie Cornish yn bwysig, ac rwy’n disgwyl iddo ddod o hyd i ffordd ymlaen i’n gwasanaeth. Rydych yn llygad eich lle: bu cynnydd sylweddol yn y rhwygiadau sy’n cael eu canfod, ond hefyd yn nifer y menywod a welir sy’n dioddef o anymataliaeth ysgarthol yn arbennig. Yr her wedyn yw sut y gallwn ddiwallu’r angen dealladwy sy’n bodoli. Rwy’n credu hefyd ei fod yn ymwneud â deall bod gennym anghenion heb eu diwallu yn y gorffennol.
Felly, dyna pam y nodais y bydd yna grŵp gorchwyl a gorffen, a dyna pam fy mod wedi cydnabod nad yw’n dderbyniol nad ydym wedi gallu comisiynu a darparu digon o wasanaethau symbylu’r nerf sacrol yma yng Nghymru yn y gorffennol. Mae angen i hynny wella, oherwydd rwy’n cydnabod, os yw’r driniaeth fwy cadwrol o feddyginiaeth a ffisiotherapi yn arbennig wedi methu, mae symbylu’r nerf sacrol yn effeithiol mewn oddeutu 75 i 80 y cant o achosion, felly mae’n driniaeth amgen hynod o effeithiol.
O ran eich pwynt ynglŷn â ffisiotherapi, mae pwynt yma ynglŷn â beth sy’n ddarbodus neu fel arall. Yn fy marn i, nid yw darpariaeth ar raddfa eang, heb fod yr angen darbodus ar gael, yn un y buaswn o reidrwydd yn ei derbyn ar y cychwyn, ond pe bai’r dystiolaeth yn newid ac mai dyna oedd y peth iawn i’w wneud, buasai gennyf ddiddordeb yn y ffordd y byddem yn cynllunio gweithlu wedyn i ddiwallu’r angen gofal wedi ei arwain gan dystiolaeth.
Mae hefyd yn werth nodi y bydd arolwg cenedlaethol yn dechrau yr wythnos nesaf, lle’r ydym yn gofyn i fenywod siarad am eu profiad o famolaeth a rhoi genedigaeth. Rydym yn awyddus i gael dealltwriaeth go iawn o’r da, y drwg a’r cyffredin, gan fod hyn yn cael ei arwain mewn gwirionedd gan fydwragedd ymgynghorol ledled Cymru i geisio sicrhau bod gennym y ffynhonnell orau o wybodaeth er mwyn asesu effeithiolrwydd ein gwasanaethau ac er mwyn eu gwella ar gyfer y dyfodol.