Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 4 Hydref 2017.
Diolch i chi am hynny. Mae yna ddatblygiadau newydd, fel y bydd y Gweinidog yn gwybod, mewn technoleg wisgadwy i gefnogi pobl hŷn yn eu cartrefi; offer i helpu i reoli meddyginiaeth, i helpu i ddefnyddio offer cegin ac i rybuddio gofalwyr; a thechnoleg adnabod llais a datblygiadau eraill. Ceir technoleg robotic hyd yn oed yn Siapan sy’n helpu gyda thasgau corfforol cyffredin yn y cartref. Gall hyn helpu pobl sy’n byw yn y cartref gyda chymorth a rheoli eiddilwch cynyddol heb orfod troi at ofal preswyl. Mae’n enghraifft hefyd o arloesi yn yr economi sylfaenol, sy’n gyfle i greu cyflogaeth yn ogystal. Yng ngoleuni hyn, a fyddai hi’n cefnogi creu cronfa technoleg gofal i annog buddsoddi mewn syniadau technoleg gofal yng Nghymru er budd ein trigolion, pa un a ydynt angen gofal neu waith?