2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru ar 4 Hydref 2017.
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio technoleg gynorthwyol ddatblygol mewn gofal cymdeithasol? (OAQ51105)
Mae gan Technoleg Iechyd Cymru gylch gwaith i asesu technolegau sy’n dod i’r amlwg ar draws iechyd a gofal cymdeithasol a gwneud argymhellion o ran eu mabwysiadu. Mae ein cronfeydd effeithlonrwydd drwy dechnoleg a gofal integredig yn cefnogi gwerthuso cyflym ac uwchraddio technolegau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg mewn lleoliadau gofal yn y byd go iawn.
Diolch i chi am hynny. Mae yna ddatblygiadau newydd, fel y bydd y Gweinidog yn gwybod, mewn technoleg wisgadwy i gefnogi pobl hŷn yn eu cartrefi; offer i helpu i reoli meddyginiaeth, i helpu i ddefnyddio offer cegin ac i rybuddio gofalwyr; a thechnoleg adnabod llais a datblygiadau eraill. Ceir technoleg robotic hyd yn oed yn Siapan sy’n helpu gyda thasgau corfforol cyffredin yn y cartref. Gall hyn helpu pobl sy’n byw yn y cartref gyda chymorth a rheoli eiddilwch cynyddol heb orfod troi at ofal preswyl. Mae’n enghraifft hefyd o arloesi yn yr economi sylfaenol, sy’n gyfle i greu cyflogaeth yn ogystal. Yng ngoleuni hyn, a fyddai hi’n cefnogi creu cronfa technoleg gofal i annog buddsoddi mewn syniadau technoleg gofal yng Nghymru er budd ein trigolion, pa un a ydynt angen gofal neu waith?
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwnnw a’r gydnabyddiaeth i’r amrywiaeth enfawr o dechnolegau cynorthwyol a geir, a’r potensial enfawr sydd ganddynt i wella’r gofal a gynigiwn i bobl. Mae mecanweithiau ariannu sefydledig ar waith eisoes ynghyd â dulliau sefydledig o ran mabwysiadu ac ehangu defnydd o dechnolegau cynorthwyol. Er enghraifft, mae ein strategaeth iechyd a gofal ddigidol ar gyfer Cymru yn darparu llwybr ar gyfer annog mwy o ddefnydd o dechnoleg i drawsnewid ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a sicrhau canlyniadau gwell i bobl. Ac mae ein rhaglen gofal a alluogir gan dechnoleg hefyd yn datblygu dull cenedlaethol o gynyddu’r defnydd o deleiechyd a theleofal yng Nghymru, ac mae’r rhaglen honno’n gweithio’n agos iawn gyda chydweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru i nodi’r blaenoriaethau a’r defnydd mwyaf effeithiol a chyson y gallem ei wneud o’r technolegau newydd hyn.
O ran cyllid, eisoes mae gennym raglen effeithlonrwydd drwy dechnoleg, sef cronfa gwerth £10 miliwn i gefnogi asesu technolegau newydd, a’u datblygu a’u mabwysiadu’n gyflym ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Hefyd, wrth gwrs, mae ein cronfa gofal integredig yn cynnig cyfleoedd enfawr i ddefnyddio’r technolegau newydd hyn i gadw pobl yn eu cartrefi, yn hytrach na chael derbyniadau diangen i’r ysbyty, ac yn amlwg, i ddod â phobl adref yn gynt o’r ysbyty hefyd. Rydym wedi darparu £60 miliwn o gyllid sydd ar gael ledled Cymru ar gyfer y gronfa gofal canolraddol y flwyddyn hon, a cheir rhai enghreifftiau yn ein hardal ym Mae’r Gorllewin lle y defnyddiwyd y cyllid hwn. Er enghraifft, mae’r rhanbarth newydd dderbyn arian ar gyfer prynu pecynnau technoleg gynorthwyol Just Checking, a byddant yn cael eu defnyddio mewn cartrefi ar gyfer tenantiaethau byw â chymorth ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Ac felly bydd y gwasanaeth yn defnyddio’r pecynnau i fesur y gefnogaeth y bydd unigolion ei hangen yn y cyfnod gosod cychwynnol, ac yna gallant ddefnyddio’r pecynnau hyn i dargedu oriau cymorth, yn ystod y dydd a’r nos, ar y lefel gywir ar gyfer yr unigolyn dan sylw.
Rydych newydd grybwyll Bae’r Gorllewin, ac rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol fod bargen ddinesig bae Abertawe mewn sefyllfa dda iawn i feithrin cwmnïau sydd am ddatblygu’r ymyriadau technoleg hyn mewn gwirionedd ar gyfer ailalluogi a gofal cymdeithasol arall, yn enwedig yn y cartref. Nodwyd y cyfle eisoes. Tybed felly pa sgyrsiau y gallech fod wedi eu cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i sicrhau bod unrhyw gwmnïau newydd sy’n dangos diddordeb yn y maes gweithgaredd hwn yn edrych yn ffafriol ar ardal bargen ddinesig bae Abertawe, yn hytrach na mannau eraill. Rwy’n credu y byddai o gysur mawr i bawb ohonom wybod y bydd hwnnw’n gyfle i staff a’r economi yn ogystal â chleifion. Diolch.
Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, ac rwy’n sicr wedi cael trafodaethau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ynglŷn â’r ffaith ein bod wedi nodi gofal cymdeithasol fel sector o bwys strategol cenedlaethol. Ac wrth gwrs, fe fyddwch wedi gweld yn ‘Ffyniant i Bawb’ ei fod yn un o’n themâu trawsbynciol allweddol ochr yn ochr â thai, sydd hefyd â chysylltiad â’r math hwn o faes hefyd. Felly, byddaf yn sicr yn cael y drafodaeth benodol honno ar botensial y fargen ddinesig. Credaf fod hwnnw’n gynnig cyffrous gyda photensial cyffrous yno hefyd, felly rwy’n meddwl ei fod yn rhywbeth y gallem weithio i gael cyfarfod ar y cyd yn ei gylch.